arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English version return home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
small arrow Yr enillwyr ym mhob ardal
  small arrow Yr holl enillwyr yn nhrefn yr wyddor
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office
Active Communities logo

Enillwyr 2006

A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M
N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z |
 

48th Ipswich Brownies
Yn cynnig gweithgareddau heriol a llawn hwyl i ferched rhwng 7 a 10 oed.


ACCORD Hospice
Yn darparu gofal i gleifion a’u teuluoedd o fewn yr hosbis ac yn y gymuned.

Accuro
Yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i blant ac oedolion sydd ag anabledd.

Action for Stannington
Yn datblygu ac yn darparu cynlluniau ar gyfer cadw a gwarchod yr amgylchedd, yn annog trigolion i ofalu am eu cymdogaeth.

Aik Saath
Yn hybu heddwch a harmoni drwy addysgu sgiliau datrys gwrthdaro.

Amazon Young Women's Project
Mae gweithwyr ieuenctid yn symbylu ac yn annog aelodau’r grŵp i ddatblygu mentrau creadigol i fynd i’r afael â materion trosedd a diogelwch y cyhoedd.

Back Door Music Project
Yn rhoi’r cyfle i ieuenctid y fwrdeistref fynegi, dysgu a chyflawni sgiliau cerddorol.

Barnardo's Newcastle Pyramid Scheme
Yn darparu gwiriadau iechyd emosiynol i bob plentyn ym mlynyddoedd 3 a 4, gan wahodd 10 plentyn i fynychu Clwb Pyramid i helpu codi hyder a hunan barch.

The Beacon of Hope
Yn rhoi cymorth ac addewid o weithredoedd ymarferol i bobl pan fyddant yn sâl neu’n marw ac i’w teuluoedd a’u gofalwyr.

Befriend a Child Scheme
Yn anelu at leihau dioddefaint a thrallod, hybu lles a gwella addysg plant yn Aberdeen.

Beverley Community Lift
Yn darparu gwasanaeth cludiant i gynyddu annibyniaeth pobl hŷn neu anabl, yn helpu mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd.

The Bexhill Caring Community
I hyrwyddo yn Bexhill les y rhai sydd mewn angen, yn dioddef caledi neu drallod, yn enwedig pobl hŷn, ond nid hwy’n unig, mewn unrhyw fodd y mae’r gyfraith yn ei dybied yn elusennol.

Body Positive Dorset
Canolfan gefnogi ymateb cadarnhaol ar gyfer pob person sy’n byw gyda HIV neu’n cael ei effeithio ganddo.

Braunstone Stars and Angels
Yn darparu gweithgaredd yn y gymuned i blant o 4 oed i fyny, i ddysgu canu, cael hyfforddiant lleisiol a dysgu perfformio.

Bulwell Credit Union Ltd
Yn darparu gwasanaethau ariannol sylfaenol i bobl yn yr ardal.  Addysgu ac annog pobl ar incwm isel i ddefnyddio a rheoli eu harian yn ddoeth.

Calder Valley Search and Rescue Team
Tîm Chwilio ac Achub

The Cambridgeshire Parliament
Yn cefnogi pobl sydd ag anawsterau dysgu i ddod yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymunedau, yn cynrychioli eraill ac yn datblygu eu hunain.

Cancer Link Aberdeen and North (CLAN)
Yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, addysg a therapïau cyflenwol yn rhad ac am ddim, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ganser yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Canterbury and District Recorder
Recordio ar dâp sain y newyddion lleol i’r dall, y rhai â nam ar eu golwg ac unrhyw un sy’n methu trafod papur newydd.

Chance UK
Yn gweithio gyda phlant ysgolion cynradd sydd ag anawsterau ymddygiad, drwy eu paru gyda gwirfoddolwyr o oedolion.

Children with Special Needs Foundation
I ofalu am blant gydag anghenion arbennig gan roi iddynt hunan barch a hunan bwysigrwydd.

Cricket Federation for People with Disabilities (CFPD)
Rhoi’r cyfle i unrhyw berson ag anabledd i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm rheolaidd.

The Crowborough Vale Drama Group
Grŵp drama i godi arian i’w ddosbarthu rhwng achosion da lleol.

Cuckmere Community Bus
I ddarparu gwasanaeth bws i bentrefwyr fynd i’r trefi i siopa ayyb.

The Deeping Men's Group
I godi arian i brynu cadeiriau olwyn ac offer meddygol arall, a’u benthyca i bobl yn rhad ac am ddim o fewn ardal Deepings.

Disability Awareness Day
Hybu annibyniaeth drwy gydol bywyd a gwaith i bobl anabl a’u teuluoedd.

Donna's Dream House
Darparu gwyliau am ddim yn Blackpool i blant ag afiechyd marwol a’u teuluoedd yn Donna's Dream House.

Down's Syndrome Association
Yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a datblygiad personol i blant ac oedolion â syndrom Down, eu teuluoedd ac i’r cyhoedd sydd â diddordeb yn y cyflwr.

Earthworks
Pobl o bob gallu’n dysgu ac yn gweithio gyda’i gilydd gan fwynhau hynny, yn creu rhywbeth gwerthfawr i’r gymuned gyfan.

Folkestone Migrant Support Group
I ddarparu cyfleusterau ar gyfer lliniaru tlodi a thrallod ffoaduriaid a cheiswyr lloches a mewnfudwyr eraill a’u teuluoedd.

Forest Fitness Centre
Yn darparu ymarfer corff ac addysg iechyd i bob aelod o’r gymuned.

Four Groves Community Association
Yn gwneud yr ardal yn lle mwy diogel i fyw ynddo, yn cynyddu ysbryd cymunedol, yn gwella’r amgylchedd ac yn gwella iechyd.

Friends for Friends 1:1 Club
Clwb integredig ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu a’u ffrindiau o wirfoddolwyr.

Friends of the Royal Shrewsbury Hospital
Yn rhoi cymorth i gleifion yr ysbyty sy’n sâl, yn anabl, yn eiddil neu angen cymorth ac yn cefnogi gwaith yr ysbyty’n gyffredinol.

Friends of Wombwell Cemetery
Cadw, harddu a gwella ardal Mynwent Wombwell er mwyn lleihau lefel ofn troseddu ac i’w wneud yn fan i bobl mewn profedigaeth gael heddwch a myfyrdod.

Gatehouse of Fleet YMCA Drop in Centre
Yn darparu canolfan galw i mewn ar gyfer hamdden cymdeithasol ac addysg anffurfiol yn cael ei ddefnyddio gan bobl ifanc lleol sydd dan anfantais gymdeithasol a gwledig.

Gateway Wheelers
Yn darparu beiciau, offer a chefnogaeth addas i alluogi pobl gydag anableddau i feicio ac i greu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol.

Glaven District Caring Committee
Yn darparu gofal a chysur ychwanegol yn ogystal â gwasanaethau meddygol a phersonol i’r henoed a’r bregus yn neuddeg pentref dyffryn Glaven.

Gloucestershire County Association for the Blind
Yn hyrwyddo cymorth i bobl â nam ar y golwg yn Swydd Caerloyw.

The Guernsey Specials Gymnastics Club
Mae’r Guernsey Specials Gym Club yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gydag amrywiaeth o anghenion arbennig i  wneud gymnasteg.

Gwavas Residents Association
Yn darparu cyfleusterau er budd lles cymdeithasol ar gyfer gweithgareddau hamdden gyda’r nod o wella amodau byw i bobl yr ardal.

HEAL
Gwasanaeth hunan-gymorth a chefnogi i oedolion sydd wedi goroesi cael eu cam-drin pan yn blant.

Helford River Children's Sailing Trust
Yn darparu cyfleoedd i blant ddysgu sut i hwylio, gan ennill hyder a mwynhad o’r môr.

Helping Hands
I ddarparu gwasanaeth benthyca cysuron cartref, sef offer meddygol a phethau eraill i drigolion difrifol wael yn yr ardal leol.

Holme Valley Mountain Rescue Team
Darparu cyfleusterau chwilio, achub a chymorth cyntaf, gan annog, hyrwyddo a hyfforddi pobl ifanc mewn gweithgareddau awyr agored diogel a phriodol.

Homecall
Yn recriwtio, dethol, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr ar gyfer gwasanaeth ymweld â’r cartref sy’n helpu pobl â nam sylweddol ar eu golwg i gadw eu hannibyniaeth ac i liniaru eu hunigedd cymdeithasol.

Home-Start Stevenage
Yn cynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a chymorth ymarferol i deuluoedd gyda phlant ifanc yng nghartrefi’r teuluoedd eu hunain.

Hormead Hares Football Club
Clwb pêl-droed i aelodau ifanc y gymuned.

Hospice Care for Burnley and Pendle
Yn darparu ar gyfer anghenion arbennig pobl â chanser neu salwch arall sy’n byrhau bywyd, yn benodol yn darparu gofal lliniarol i bobl yn yr ardal.

Hospice at Home Volunteers
Rydym yn darparu gofal a chefnogaeth am ddim yn wythnosol i bobl sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.

Interest Link Borders
Yn cysylltu oedolion ag anableddau dysgu ledled Gororau’r Alban un i un gyda gwirfoddolwyr cydnaws sydd wedi eu hyfforddi, er mwyn iddynt allu cwrdd yn rheolaidd i wneud gweithgareddau o’u dewis yn y gymuned. 

Inverclyde Family Contact Centre
Yn cefnogi ac yn hybu perthnasoedd cadarnhaol rhwng plant a rhieni absennol.

Jigsaw4u
Yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy golled a thrawma a’u hymrymuso i fod â llais yn y broses o wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.

Just Us
Supports young people, providing a number of vital support roles to young people involved with Swansea Youth Offending Team.

Knowetop
Community Farm Volunteers
I hybu a hyrwyddo gwybodaeth ym meysydd garddwriaeth, amaethyddiaeth, gofalu am anifeiliaid, ailgylchu a materion amgylcheddol eraill.

Knowle West Media Centre
Mae’r prosiect yn anelu at ddefnyddio cyfryngau fel teclyn i gynnwys pobl yn y gwaith o adfywio eu cymunedau, i adeiladu sgiliau ac i greu cyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau sy’n hybu datblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.

Learning Partnerships Literacy Volunteers
Codi proffil llythrennedd yn yr ysgol a’r gymuned, gan wneud dysgu’n hwyl a darllen yn bleser.

Lincoln and District REMAP Panel
I gynorthwyol ac adfer pobl anabl, drwy ddylunio a chynhyrchu offer arbenigol (nad yw ar gael yn fasnachol) sy’n cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim i gleientiaid.

Literacy Volunteers
Yn helpu plant sy’n ei chael hi’n anodd dod dros eu problemau ac i ddarganfod y gall darllen fod yn hwyl.

LNBP at Braunston (London Narrow Boat Project)
Yn darparu cyfleusterau preswyl ar gychod y Prosiect ei hun i alluogi plant, pobl ifanc a’r llai abl i fwynhau’r profiad o hwylio ar gamlesi ar y dyfrffyrdd mewndirol.

Longmynd Adventure Camp
Gwersyll antur ar gyfer plant a phobl ifanc difreintiedig a dan anfantais gymdeithasol.

Ludlow Marches Skill-Building Project
Yn annog y genhedlaeth nesaf o grefftwyr, yn gweithio i addysgu pobl ifanc i werthfawrogi gwerth sgiliau crefft.

MARC
Menter gymdeithasol sy’n darparu cyngor a gwybodaeth i’r gymuned am amrywiaeth o wasanaethau.  Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant ac addysg, ac yn darparu dodrefn a nwyddau’r tŷ i’w hailddefnyddio i’r cyhoedd.

Medway Towns Conservation Volunteers
I wneud gwaith adfer amgylcheddol ac ennyn diddordeb cyhoeddus yn y parc.

Meals on Wheels Service (Jersey) Society
I ddarparu prydau bwyd poeth i’r rhai mewn angen.

Moffat Mountain Rescue Team
Gwasanaeth achub i bobl sydd wedi eu hanafu, eu gwneud yn ansymudol, eu colli neu mewn trallod yn ardal Moffat a’r cyffiniau.

The Murray Foundation
Yn darparu cefnogaeth a chynghori i gleifion sy’n cael eu heffeithio gan golli aelod o’r corff, neu fod heb aelod o’r corff.

National Phobics Society (NPS)
Yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar draws y wlad i bobl sy’n cael eu heffeithio gan anhwylderau pryder a chyflyrau perthynol.

Neath Port-Talbot Cancer Challenge Charity
Yn anelu i brynu offer arbed bywyd ar gyfer unedau canser ein hysbytai lleol, gan godi arian drwy gyfrwng amrywiaeth o fentrau yn cynnwys côr. 

Newent Association for the Disabled
Yn darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar gyfer pobl ag anabledd corfforol o bob oedran yn Sheppard House a gwasanaethau deialu-am-reid a gwasanaethau cludiant wennol.

Newtongrange Phoenix Club for the Disabled
Yn cynnig adloniant ac yn symbylu pobl sydd ag anawsterau dysgu i wneud iddynt deimlo bod croeso iddynt a bod pobl eu heisiau.

Oasis
Yn darparu lle pleserus a chroesawgar i bobl ifanc oedran ysgol uwchradd.  Mae’r adeilad yn ddewis diogel a deniadol i loetran ar y strydoedd a mynd yn rhan o’r isddiwylliant cyffuriau.

Open Country
Yn ceisio galluogi pobl gydag anableddau i gael mynediad at y cefn gwlad, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a gweithgareddau.

Oxford Friend Lesbian and Gay Helpline
Yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chynghori ar faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a phethau perthynol, i Swydd Rhydychen a’r ardal gyfagos.

PACT (Patient Aid Caring Team)
Yn cynnig cymorth a chysur i gleifion Central Park Medical Centre, yn gweithio’n bennaf gyda phobl mewn profedigaeth neu sydd â salwch marwol.

Praxis Befriending Service
I ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i’r rhai sydd wedi eu hynysu’n gymdeithasol gan afiechyd meddwl.

Preston Panthers
Yn darparu chwaraeon a hamdden i bobl ifanc gydag anableddau neu namau.

Riding for the Disabled Association (Coleraine and District)
Yn darparu cyfleoedd marchogaeth ceffylau a gyrru i bobl anabl - pobl anabl yn gorfforol ac yn feddyliol o’r ardal.

Rochdale Connections Trust
Yn helpu plant neu bobl ifanc sydd wedi eu heithrio o gyfleoedd cymdeithasol ac addysgiadol oherwydd anfodlonrwydd, gwaharddiadau, problemau teuluol neu broblemau eraill.

Sailing for the Disabled
Yn darparu cyfleoedd hwylio, hyfforddiant a hamdden, i bobl gydag unrhyw fath o anableddau.

Sangam Association of Asian Women
Cymdeithas i Fenywod sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’r gymuned leol a’r fwrdeistref gyfagos.

Sikh Nari Manch Women's Group
Yn anelu at ymrymuso menywod yn gyffredinol, ond Sikhiaid yn neilltuol, drwy gyfrwng cymysgedd o weithgareddau addysgiadol, cymdeithasol a hamdden.

Silverdale First Responders
Yn darparu gwasanaeth dros dro rhwng deialu 999 a’r gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd.

Shanklin Voluntary Youth and Community Centre
Yn darparu gweithgareddau ar gyfer ieuenctid a chymuned South Wight mewn amgylchedd hygyrch, saff, diogel a chroesawgar.

Shpresa Programme
I alluogi’r gymuned sy’n siarad Albanaidd yn y DU i ymgartrefu ac i gymryd rhan lawn yn y gymdeithas.

South Bucks RDA Group
I ddarparu cyfleoedd therapiwtig, hamdden, addysgiadol a marchogaeth ar gyfer pobl anabl.

South Norfolk Youth Symphonic Band
I ymestyn ac i annog addysg plant a phobl ifanc rhwng 8 a 23 mlwydd oed gyda theori, ymarfer a pherfformio cerddoriaeth.

Southwater Community Police Office
Yn darparu cyswllt calonogol a gwerthfawr a gweladwy iawn rhwng y cymunedau lleol a’r heddlu.

Spelthorne Civic Pride Volunteers
Yn annog trigolion i gymryd rhan ymarferol mewn gwella eu hamgylchedd lleol ac i ddangos i’r trigolion yr effaith dda y gallant ei chael ar eu stryd, eu llwybr, eu parc a’u mannau gwyllt..

St Paul's Family Meeting Place, Child Contact Centre
Yn rhoi cyfle i blant â rhieni wedi ysgaru gadw cysylltiad â’u teuluoedd, gan gyfarfod mewn amgylchedd niwtral a heb straen.

Stonebridge Older Person's Forum
I hyrwyddo diddordebau pobl dros 60 oed yn ardal Stonebridge.

Sutton Seniors' Forum
Yn hybu lles a buddiannau pobl hŷn ym Mwrdeistref Sutton yn Llundain, gan ddarparu platfform lle gellir codi materion sy’n achosi pryder iddynt.

Suffolk Hearing Support Service
Yn darparu gwaith cynnal a chadw rheolaidd un i un ar gyfer teclynnau clyw’r GIG, naill ai yng nghartrefi pobl neu mewn canolfan gynghori neu glinig clyw o gwmpas y sir, yn cynnig cefnogaeth ac yn rhedeg clinigau clyw o gwmpas y sir.

Tain Gala Association
Yn dod â’r gymuned ehangach at ei gilydd drwy drefnu a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar raddfa fach a mawr drwy gydol y flwyddyn.

Tipton Community Association
Trefnu digwyddiadau a gwasanaethau i’r gymuned. 

WAMDSAD
Yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i bobl sydd ag anableddau corfforol a synhwyrol

Whale Hill Community Association Ltd.
Yn darparu cyfleusterau er budd lles cymdeithasol ar gyfer gwaith adloniant ac amser hamdden.

Wolverton Secret Garden Society
Caffael, cynllunio, datblygu, cynnal a chodi arian ar gyfer y darn o dir y maen nhw’n ei alw erbyn hyn yn Secret Garden.

Woodingdean Youth Centre
I helpu ac i addysgu pobl ifanc drwy gyfrwng eu gweithgareddau amser hamdden er mwyn datblygu eu medrau corfforol ac ysbrydol.

Wychwood Project
Yn annog pobl i ddeall, i gadw ac i adfer y dirwedd a chynefinoedd bywyd gwyllt yr hen Fforest Frenhinol yn Wychwood.

The Winsford Trust
Trawsffurfio hen ysbyty bwthyn yn ganolfan sy’n darparu canolfan ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, addysgiadol, iechyd a hamdden ar gyfer y gymuned.