unsung heroes The Queen's Golden Jubilee Award for voluntary service by groups in the community The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
cymraeg version return home
about the award
how to nominate
winners
case studies
news
frequently asked questions
links
contact us
Cabinet Office - Office for the Third Sector
news  
"" Return to news
"" Read a Welsh language version of this press release

Press Release: 2 JUNE 2008

Y Frenhines yn talu teyrnged i grwpiau gwirfoddoli’r DU gyda Gwobr glodfawr

Heddiw, cyhoeddir bod saith deg naw o grwpiau gwirfoddoli ar draws y DU yn enillwyr Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddoli 2008, gan gydnabod y cyfraniadau rhagorol mae’r grwpiau gwirfoddoli wedi gwneud i gymunedau lleol drwy roi o’u hamser er budd eraill.

Mae’r Anrhydedd Genedlaethol glodfawr, sydd gyfwerth â MBE, yn gosod y meini prawf cenedlaethol am ragoriaeth ym maes gwirfoddoli, ac mae gweithgareddau’r rhai sy’n cael eu gwobrwyo wedi’u barnu i fod o’r safon uchaf.

Mae’r rheiny sy’n cael eu gwobrwyo yn 2008 yn cynnwys clwb cymunedol yn Preston sy’n gweithio er mwyn ailgyfeirio plant lleol i ffwrdd oddi wrth dorri’r gyfraith, i sefydliad gwirfoddol sy’n darparu gwyliau i bobl ag anghenion arbennig yng Nghaerwysg a thîm achub mynydd yn County Down sy’n cynorthwyo dringwyr colledig neu sydd wedi’u hanafu*.

Detholwyd yr enillwyr o 379 o grwpiau a enwebwyd gan aelodau’r cyhoedd sydd wedi derbyn cymorth yn bersonol neu sydd wedi gweld gwaith da’r grwpiau ar waith yn eu cymuned. Byddant yn derbyn tlws crisial arbennig i gofnodi’u llwyddiant mewn un o nifer o seremonïau lleol arbennig sy’n cael eu cynnal gan un o Arglwyddi Rhaglaw’r Frenhines.

Llongyfarchodd Phil Hope, Gweinidog y Trydydd Sector, enillwyr 2008 ar y llwyddiant gan ddweud:

“Mae’n fraint gennyf allu talu teyrnged i holl enillwyr Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddoli eleni, sydd wedi gwneud, ac sy’n parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau nifer fawr o bobl ar draws ein cymdeithas.

“Mae grwpiau gwirfoddol yn gwneud cyfraniad aruthrol i’w cymunedau, yn aml heb dderbyn clod am y gwaith maen nhw’n ei wneud, ac mae’n bwysig i ni oll gydnabod y gwaith maen nhw’n ei wneud drwy helpu eraill ac efallai gael ein hysbrydoli gan eu gorchestion.”

Er sefydlu’r Wobr i gofnodi Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi yn 2002, mae dros 600 o grwpiau gwirfoddol wedi ennill Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddoli yn ystod y chwe blynedd ers ei chreu.

Am fanylion holl enillwyr Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddoli eleni a gwybodaeth ynghylch sut i enwebu grŵp sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, ewch at www.queensawardvoluntary.gov.uk, lle y gallwch lawrlwytho ffurflen enwebu.

– Diwedd –

Am fwy o bwybodaeth

Mark Atkins, Consolidated 020 7781 2391 neu marka@consol.co.uk
Helen Little, Consolidated 020 7781 2331 neu helenl@consol.co.uk

Nodiadau i olygyddion

  • * Mae Callon Kid’s Community Club yn datblygu ystod o weithgareddau sy’n anelu at gynnig dyheadau i blant ystâd Callon yn Preston trwy gynhwysiad cymdeithasol, ac i’w harwain i ffwrdd oddi wrth weithgareddau troseddol.
  • Grŵp wedi’i leoli yng Nghaerwysg yw Dream-A-Way sy’n anfon pobl leol o bob oedran ar draws y de orllewin ag anawsterau corfforol ac addysgol ar wyliau a gwibdeithiau, gan alluogi iddynt gyflawni breuddwyd bywyd neu dim ond i wneud rhywbeth gwahanol i’r arfer.
  • Mae Tîm Achub Mynydd Mourne, sydd wedi’i leoli yn nhref arfordirol Newcastle yng Ngogledd Iwerddon, yn cynnwys grŵp o fynyddwyr profiadol sy’n gwirfoddoli ar bob adeg ac ym mhob tywydd i helpu unrhyw un sydd i drafferth ar y mynyddoedd lleol.

Ynghylch Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwaith Gwirfoddol

Sefydlwyd Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer Gwaith Gwirfoddol gan Grwpiau yn y Gymuned i ddathlu Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi yn 2002. Pwrpas y wobr yw cydnabod grwpiau o unigolion sy’n rhoi o’u hamser er lles eraill. Dyma’r anrhydedd uchaf a ellir ei gyflwyno i grwpiau o’r math hwn ac mae ganddo statws tebyg i’r MBE. Nid yw Gwobr y Frenhines yn cydnabod grwpiau gwirfoddol yn unig, mae hi hefyd yn arddangos y parch uchel sydd tuag at wirfoddoli.

Rhaid enwebu grwpiau ar gyfer y Wobr – ni ellir hunan-enwebu. Gallwch enwebu grŵp (dau berson neu fwy) sydd wedi’i leoli yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Rhaid bod y grŵp wedi bod yn gwirfoddoli er lles pobl yn y DU neu dramor am o leiaf tair blynedd a rhaid bod dros hanner o aelodau’r grŵp yn wirfoddolwyr sydd â’r hawl i breswylio yn y DU. Nid yw grwpiau sy’n ymwneud yn unig â gweithgareddau codi arian at achosion da yn gymwys am y Wobr. Mae mwy o fanylion ar feini prawf mynediad a’r broses enwebu ar gael o www.queensawardvoluntary.gov.uk.

Dyma enillwyr Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddoli 2008:

  • Guernsey Jumbulance Holidays
  • Isle of Man Breakthrough Breast Cancer Group
  • Jersey Hospice Care Volunteers
  • Jersey Citizens Advice Bureau
  • The Jersey Across Group
  • 1st Dickleburgh Sea Scout Group, Norfolk
  • Brightlingsea and West Mersea Community First Responder Groups
  • Centre 33, Swydd Hertford
  • Fusion, Swydd Bedford
  • King's Lynn Samaritans
  • Nicky’s Way at St Nicholas Hospice, Suffolk
  • The Harpenden Trust, Swydd Hertford
  • Learn English At Home (LEAH), Surrey
  • DAGE (Deptford Action Group for Elderly), Llundain
  • Volunteer Supported Education, Middlesex
  • Redbridge Youth Offending Team Referral Order Panel Members, Essex
  • Child Death Helpline, Llundain
  • JUMP 2K, Llundain
  • Inside Outside, Llundain
  • Barrow Dad's Group, Cumbria
  • Whitemoss Club for Young People, Manceinion
  • Beacon Counselling, Swydd Gaer
  • St Luke's (Cheshire) Hospice
  • Aughton Ormskirk University of 3rd Age, Swydd Gaerhirfryn
  • Callon Kid's Community Club, Swydd Gaerhirfryn
  • Facing Life and Pain (F.L.A.P.), Glannau Mersi
  • The Bridgend Centre, Swydd Gaer
  • Mourne Mountain Rescue Team, County Down
  • Crossfire Trust, County Armagh
  • Cruse Bereavement Care in Northern Ireland, County Antrim
  • Aberdeen Arts Centre Volunteers
  • Greenock ABC, Inverclyde
  • Tayside Special Olympics, Angus
  • Ardgowan Hospice Volunteers, Inverclyde
  • West Alness Residents Association, Swydd Ross
  • Springburn Alive and Kicking Project, Swydd Lanark
  • Castlemilk Timebank, Swydd Lanark
  • Berwickshire Wheels Community Transport
  • The Riverside Centre, Ynys Wyth
  • Springboard Project, Gorllewin Sussex
  • Post Pals, Surrey
  • Crossover-Breakout, Dwyrain Sussex
  • Battle Area Community Transport, Dwyrain Sussex
  • The Salvation Army Haven Community Project, Hampshire
  • Base 33, Swydd Rydychen
  • Castle Hill Group, Dwyrain Sussex
  • Just Around the Corner, Berkshire
  • The Independent Advice Centre, Swydd Rydychen
  • National Talking Newspapers and Magazines, Dwyrain Sussex
  • St Sidwell's Community Café, Dyfnaint
  • Bude Surf Life Saving Club, Cernyw
  • Dream-A-Way, Dyfnaint
  • Island Response, Ynysoedd Scilly
  • Nanstallon United Youth Football Club, Cernyw
  • Crewkerne Aqua Centre Volunteers, Gwlad yr Haf
  • Freewheelers Emergency Voluntary Service, Bryste
  • EcoDysgu – EcoLearn, Pen-y-Bont
  • Bravehearts Dinas Abertawe
  • The Woodlands Field Group, Torfaen
  • Rhyl South West Central Residents Association, Sir Ddinbych
  • Birmingham St Mary's Hospice Volunteers
  • Wenlock Olympian Society, Swydd Amwythig
  • Listen and Care, Swydd Amwythig
  • The Wolverhampton Coronary Aftercare Support Group (WCASG)
  • Biddulph in Bloom, Swydd Stafford
  • The Lyneal Trust, Swydd Amwythig
  • Hemsworth and District Community Initiatives Ltd, Gorllewin Swydd Efrog
  • Home-Start Leeds
  • Hull Churches Home from Hospital Service
  • Pennine Magpie, Gorllewin Swydd Efrog
  • Greystones Community Action Group, De Swydd Efrog