arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English versionreturn home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni

Cabinet Office - Office for the Third Sector

 

news  
Dychwelyd i°r Newyddion

28 Mehefin 2006

‘DIOLCH’ Y FRENHINES I ARWYR TAWEL Y DU

 Mae 104 o grwpiau gwirfoddoli’r DU wedi cael eu dewis fel enillwyr Gwobr y Frenhines am Waith Gwirfoddol, gan gydnabod yr arwyr tawel yn ein cymunedau sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd.

Mae pob un o’r enillwyr wedi cael eu henwebu gan aelodau’r cyhoedd sydd naill ai wedi elwa yn sgil eu gwaith, neu wedi gweld yr effaith gadarnhaol ar y gymuned.  Dim ond i’r grwpiau hynny y bernir bod eu gwirfoddolwyr wedi rhoi o’u hamser i ddarparu lefel eithriadol o gymorth i bobl eraill y rhoddir y Wobr.

Meddai Ed Miliband, y Gweinidog dros y Trydydd Sector:

“Rwy’n llongyfarch enillwyr Gwobr y Frenhines ac yn talu teyrnged i’r gwaith rhagorol y maen nhw’n ei wneud.  Ledled ein gwlad, ym mhob cylch bywyd, maen nhw’n gwneud cyfraniad enfawr i gydlyniad cymdeithasol, adnewyddu cymunedau a chyfiawnder cymdeithasol.

“Mae’r grwpiau hyn yn dangos i ni faint y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn ymuno â’i gilydd er mwyn gwneud gwahaniaeth.  Maen nhw’n clymu cymunedau ynghyd, ac yn helpu’r bobl mwyaf bregus.  Maen nhw’n esiampl i bob un ohonom.”

Os ydych chi’n gwybod am grŵp gwirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch cymuned, mae ffurflenni enwebu ar gyfer Gwobr y Frenhines am Waith Gwirfoddol 2006 ar gael ar www.queensawardvoluntary.gov.uk neu drwy ffonio 0845 000 2002. Mae’r cyfnod enwebu’n cau ar 30 September 2006.

DIWEDD

AM RAGOR O WYBODAETH, AM GYFWELIADAU NEU AM FFOTOGRAFFIAETH, CYSYLLTWCH Â POLLY WATKINSON YN GERONIMO COMMUNICATIONS AR 0207 299 8767.

Nodiadau i olygyddion

  1. Ar 30 Ebrill 2002, cyhoeddodd Ei Mawrhydi y Frenhines ei bod yn creu Gwobr newydd flynyddol i nodi achlysur ei Jiwbilî Aur.  Yr enw newydd ar y wobr hon yw Gwobr y Frenhines am Waith Gwirfoddol, sef Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines am Waith Gwirfoddol gynt, ac mae’n dathlu cyflawniadau eithriadol gan grwpiau o wirfoddolwyr.

  2. Hyd yma, mae 492 o grwpiau gwirfoddol wedi ennill y Wobr, yn cynnwys 104 yn 2006.
  1. Mae’r Wobr yn cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
  1. Bydd nifer y Gwobrau a ddyfernir bob blwyddyn yn dibynnu ar nifer ac ansawdd yr enwebiadau gaiff eu derbyn.  Mae’r Wobr yn cael ei dyfarnu i grwpiau, yn hytrach nag i unigolion.
  1. Rhaid i grwpiau gael eu henwebu i dderbyn y Wobr.  Ni chaniateir hunan enwebu.
  1. Mae manylion pellach ar feini prawf mynediad a’r broses enwebu ar gael ar www.queensawardvoluntary.gov.uk.
  1. Mae cynigion ar gyfer Gwobrau 2006/07 ar agor bellach, a byddant yn aros ar agor tan 30 Medi 2006.  Cyhoeddir yr enillwyr ar 2 Mehefin 2007.