  |
Datganiad iêr Wasg: Ebrill 30ain 2003
Judy Mallaber: I ofyn iêr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a wnaiff hi ddatganiad am y wobr newydd i wasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned.
TESSA JOWELL: Cyhoeddir Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines (ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned) heddiw. Cynigir y wobr flynyddol newydd hon i grwpiau a thimau yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, yn hytrach nag i unigolion. Rhoddir y wobr i gydnabod gweithgarwch gwirfoddol eithriadol syên hybu ac yn gwella ansawdd bywyd a chyfleon pobl eraill yn y gymuned. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y wobr, rhaid iêr grwpiau gael eu henwebu, er enghraifft gan bobl syên elwa ar eu gwaith, aelodau oêr cyhoedd, cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus, neu grwpiau gwirfoddol eraill. Gwneir y dewis cyntaf gan baneli lleol yn y gweinyddiaethau datganoledig a rhanbarthauêr llywodraeth, gydaêr dewis terfynol yn cael ei wneud yn ganolog gan Bwyllgor Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines. Maeêr wobr yn dangos pa mor bwysig yng ngolwg y Frenhines yw gwasanaeth cymunedol a gwirfoddol gan dimau a grwpiau ymroddedig, ac yn rhoi cyfle hefyd i gymunedau enwebu a dathluêr cyfraniad amhrisiadwy y maen nhwên ei wneud. Rhoddir hyd at 200 o wobrau bob blwyddyn a chyhoeddir y rhai cyntaf ar 2il Mehefin 2003. Rwyf wedi gosod manylion yn Llyfrgelloedd y Ddau Dŷ a byddaf yn ysgrifennu at yr holl Aelodau Anrhydeddus yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda rhagor o wybodaeth.
|