|
Datganiad i’r Wasg: Ebrill 30ain 2003
Mae’r Frenhines
yn cyhoeddi gwobr Jiwbilî newydd ar gyfer 'arwyr addfwyn’ ein
cymunedau, meddai Tessa Jowell.
Bydd arwyr addfwyn ein cymunedau yn derbyn cydnabyddiaeth
barhaol mewn gwobr newydd ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau
i nodi achlysur Jiwbilî Aur y Frenhines, meddai’r Ysgrifennydd
Diwylliant Tessa Jowell heddiw.
Gan groesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan y
Frenhines yn ystod ei hanerchiad i’r ddau Senedd-dŷ, meddai
Tessa Jowell:
“Bydd Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines
yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol haeddiannol i’r miloedd
lawer o ‘arwyr addfwyn’ sy’n llafurio’n
ddiflino ledled y DU i helpu eu cyd-ddinasyddion. Mae’r wobr
yn dangos pa mor bwysig yng ngolwg y Frenhines yw gwasanaeth cymunedol
a gwirfoddol gan dimau a grwpiau ymroddedig, ac yn rhoi cyfle hefyd
i bawb enwebu a dathlu’r cyfraniad amhrisiadwy y maent yn
ei wneud i’n cymunedau.
Mae’r gwobrau hyn yn ffordd o gofio’n
barhaol am Jiwbilî Aur y Frenhines, gan barhau i anrhydeddu’r
gymuned a’r gweithwyr gwirfoddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Rwy’n annog pobl ar draws y DU i ddiolch i’w ‘harwyr
addfwyn’ trwy eu henwebu ar gyfer y wobr.”
Mae unigolion yn gallu cynnig grwpiau neu dimau
o’r sector gwirfoddol a chymunedol ar gyfer un o hyd at 200
o wobrau blynyddol trwy lenwi Ffurflen Enwebu, fydd ar gael o Swyddfa
Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines. Mae grwpiau sy’n gymwys
ar gyfer y wobr yn dod o’r holl sbectrwm cymunedol a gwirfoddol,
o dimau o wirfoddolwyr i’r grwpiau lleiaf yn cynnwys ychydig
o unigolion yn cydweithio yn eu cymuned leol. Y dyddiad cau ar gyfer
enwebiadau eleni fydd Medi 30ain 2002.
Meddai’r Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett,
sydd yn gyfrifol am bolisi’r Llywodraeth ar weithgareddau
gwirfoddol a chymunedol:
‘Bob dydd, ym mhob cwr o’r wlad,
mae grwpiau yn cyflawni gwaith hollbwysig yn eu cymunedau. Mae pobl
sy’n gweithio gyda’i gilydd yn trawsnewid eu cymdogaethau
trwy eu gallu creadigol a’u gwaith caled’.
Bydd Gwobr Jiwbilî Aur Flynyddol y Frenhines
yn rhoi cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n helpu i wneud eu
cymdogaethau a’u cymunedau’n lleoedd gwell i ni i gyd.”
Meddai prif weithredwr Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau
Gwirfoddol (NCVO) Stuart Etherington:
Mae Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol
(NCVO) yn falch iawn bod y Frenhines, yn ei blwyddyn Jiwbilî,
wedi penderfynu creu gwobr am waith eithriadol gan sefydliad gwirfoddol
neu gymunedol. Bydd y wobr hon yn ffordd addas o gydnabod y cyfraniad
gwerthfawr i’n cymuned a ddarperir gan sefydliadau gwirfoddol
a chymunedol a’r miliynau o wirfoddolwyr sy’n eu cefnogi.”
Meddai Alison West, Prif Weithredwr y Sefydliad
Datblygu Cymunedol:
“ Mae yna filoedd o grwpiau cymunedol bach
ar draws y DU. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth aruthrol i fywyd
y gymuned, ond dydyn nhw ddim bob amser yn cael y gydnabyddiaeth
maen nhw’n ei haeddu. Bydd y gwobrau yn rhoi hynny iddyn nhw,
ac rydw i’n siŵr y bydd hyn yn anogaeth fawr i’r rhai
hynny sy’n weithgar yn y grwpiau.”
|