arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English versionreturn home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office - Office for the Third Sector
Sut i Enwebu

Yn debyg i Anrhydeddau Cenedlaethol y DU, nid oes dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni enwebu. Ystyrir enwebiadau ar unrhyw adeg o fewn 3 blynedd i’r enwebiad. Felly, ni ddylid gwneud enwebiadau ar gyfer unrhyw Wobr i flwyddyn benodol. Os rydych yn ymwybodol o unrhyw grwp gwirfoddol sy’n rhoi o’i amser i help eraill yn y gymuned leol sy’n haeddu cydnabyddiaeth, enwebwch nhw am wobr.

Gallwch enwebu grwp (dau o bobl neu fwy) os:

  • Mae’r grwp wedi’i leoli yn y DU
  • Mae’r grwp wedi bod yn gwirfoddoli er lles pobl yn y DU neu dramor am o leiaf tair blynedd
  • Mae dros hanner o aelodau’r grwp yn wirfoddolwyr sydd â’r hawl i breswylio yn y DU.

Nid yw grwpiau sy’n ymwneud yn unig â gweithgareddau codi arian i achosion da yn gymwys am y Wobr.

Mae enwebu yn hawdd

Am fwy o wybodaeth, ysgrifennwch at Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol, d/o Consolidated, 22 Endell Street, Llundain, WC2H 9AD.

Pwy Sydd Â’r Hawl I Enwebu

Gall unrhyw un, gan gynnwys buddiolwyr grwp, enwebu drwy gwblhau ffurflen a’i danfon at Swyddfa Gwobr y Frenhines ar y cyfeiriad dros y ddalen. Gofynnir i grwpiau (gwirfoddolwyr neu staff cyflogedig) i beidio ag enwebu eu hunain er mwyn sicrhau annibyniaeth a chefnogaeth.

Ameru’r Enwebiadau

Yn debyg i Anrhydeddau Cenedlaethol y DU, nid oes dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni enwebu. Ystyrir enwebiadau ar unrhyw adeg o fewn 3 blynedd i’r enwebiad. Felly, ni ddylid gwneud enwebiadau ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol.

Cyhoeddir y Gwobrau ar 2 Mehefin i ddathlu pen-blwydd Coroni Ei Mawrhydi. Hysbysir enillwyr y Wobr a’u henwebwyr tua 1 - 2 wythnos cyn y datganiad ond ni ddylid cyhoeddi’r wybodaeth hon y tu allan i’r grwp tan 2 Mehefin.

Cwblhau’r Ffurflen Enwebu

Cwblhewch y ffurflen enwebu’n gywir, gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer pob adran unigol. Mae’n bwysig eich bod yn darparu gwybodaeth gyflawn a chryno ynghylch y grwp rydych yn ei enwebu, gan esbonio beth fu eu cyfraniad i’w buddiolwyr a’r gymuned.

Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch i gwblhau’r ffurflen, cysylltwch â Chyd-drefnydd y Wobr os gwelwch yn dda.

Cyfrinachedd

Yn wahanol i’r Anrhydeddau Cenedlaethol, nid ydym yn disgwyl i’r enwebiadau gael eu trin yn gyfrinachol. Y rheswm am hyn yw efallai bydd y Paneli Asesu Sirol yn dymuno ymweld â’r grwpiau er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’u gwaith, a rhaid bod y grwpiau wedi nodi eu bod nhw’n barod i dderbyn Gwobr os bydd yr enwebiad yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod grwpiau yn deall na fydd Gwobr o reidrwydd yn dilyn cyflwyno ffurflen enwebu.

Lythyrau Cefnogaeth

Rhaid darparu dau lythyr cefnogaeth oddi wrth eraill sydd â phrofiad personol o gyfraniad y grwp sydd wedi derbyn enwebiad. Rhaid atodi’r rhain i’r ffurflen enwebu a rhaid datgan enwau’r ddau gefnogwr, yn ogystal â’u perthynas â’r grwp, ar y ffurflen enwebu. Os na dderbyniwn y llythyrau cefnogol, ni ellir ystyried yr enwebiad.

Cydnabyddiaeth a Datblygiad Enwebiad

Unwaith i ni dderbyn eich enwebiad, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth. Yn anffodus, nid yw’n bosib cynnal gohebiaeth ar deilyngdod enwebiad penodol wrth i ni ystyried yr enwebiad neu os yw’r enwebiad yn dirwyn i ben.

Newidiadau I’r Wybodaeth A Gyflwynwyd

Efallai bydd Cyd-drefnydd y Wobr yn gofyn i chi gwblhau ffurflen yn cynnwys unrhyw wybodaeth newydd ynghylch y grwp rydych wedi ei enwebu yn ystod y cyfnod o 3 Blynedd y mae’r enwebiad yn gymwys ar gyfer ystyriaeth.