|
Y broses ddewis
24. Sut mae’r broses ddethol yn gweithio?
Mae pob enwebiad yn cael ei werthuso i ddechrau o fewn i’r sir lle mae’r grŵp yn gweithredu. Arweinir y gwerthusiad hwn gan yr Arglwydd Raglaw, cynrychiolydd Ei Mawrhydi yn y Sir, fydd yn cael ei gynorthwyo gan Banel Asesu’r Sir yn cynnwys cynrychiolwyr o sectorau amrywiol y gymuned. Efallai bydd yr Arglwydd Raglaw a/neu eu cynrychiolwyr yn dymuno trefnu ymweld â’r grŵp sydd wedi’i enwebu. Yn ogystal, asesir y grwpiau a enwebir yn Nibynwledydd y Goron Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw, yn ogystal â’r grwpiau o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru gan Lywodraethwyr Rhaglaw Dibynwledydd y Goron a chan Baneli a sefydlwyd gan y Gweinyddiaethau Datganoledig.
Beirniedir y grwpiau a enwebwyd yn erbyn meini prawf y Wobr gan Banel Asesu Arbennig, sy’n cynnwys arbenigwyr annibynnol ym maes gwirfoddoli ar draws y DU, sy’n ystyried gwerthusiadau’r Sir, Dibynwledydd y Goron, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. Cyflwynir argymhellion y Panel Asesu Arbenigol i Brif Pwyllgor y Wobr fydd yn cynghori’r Gweinidog.
Mae Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cyflwyno’r Gwobrwyon ar gyngor y Gweinidog. Unwaith mae Ei Mawrhydi wedi rhoi ei chymeradwyaeth ffurfiol byddwn yn hysbysu’r grwpiau penodol ar sail hollol gyfrinachol tan y cyhoeddiad cyhoeddus ar 2 Mehefin, pen-blwydd Coroni’r Frenhines. Cyhoeddir rhestr o enillwyr y Wobr yn Gazette Llundain. Bydd Consolidated PR yn cynnig cyngor a chymorth cyfryngol i enillwyr y Wobr.
Caiff pob enwebiad ei feirniadu ar deilyngdod yn unig ac nid oes nifer penodol o Wobrau ar gyfer sector neu ranbarth penodol. Fodd bynnag, mae’r system yn ymdrechu i gyflawni ‘cydbwysedd rhesymol’ o ffactorau fel oedran, sector a demograffeg dros gyfnod o amser.
25. Mae Aelodau’r Panel Asesu Sirol yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal leol. Mae’r Cadeirydd yn apwyntio pobl cymwys gyda statws lleol, er enghraifft:
- Y sector wirfoddol a chymunedol leol;
- Gwasanaethau lleol (iechyd, addysg, yr amgylchedd, gwasanaethau cyhoeddus);
- Y diwydiant celfyddydol a hamdden;
- Meysydd fel gwaith ieuenctid ac adfywio trefol;
- Y sector busnes.
Mae’r Panel Asesu Sirol Arbenigol yn cynnwys 12 arbenigwr annibynnol ym maes gwirfoddoli ar draws y DU. Caiff ei gadeirio gan yr Is-ysgrifennydd Seneddol Parhaol ar gyfer y Swyddfa Gartref, adran y llywodraeth sydd â chyfrifoldeb cyfan gwbl dros weithgareddau gwirfoddol a chymunedol.
26. Pwy sy’n eistedd ar y paneli hyn?
Mae’r aelodaeth yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal leol. Mae’r
Cadeirydd yn penodi pobl gyda chymwysterau priodol sydd yn uchel
eu parch yn lleol o blith, enghraifft:
- y sector gwirfoddol a chymunedol lleol;
- gwasanaethau lleol (iechyd, addysg, yr amgylchedd, gwasnaethau
cymdeithasol);
- y celfyddydau a’r diwydiant hamdden;
- meysydd megis gwaith ieuenctid neu adfywio trefol;
- y sector busnes.
27. A yw grwpiau sy’n cael eu henwebu yn cael eu gwirio?
Ydyn, fel y gallwn ni fod yn siŵr bod y grwpiau yn ddilys a phetaent
yn llwyddo yn y broses ddewis na fyddent yn dwyn anfri ar y cynllun.
28. Pwy sy’n gyfrifol am y detholiad terfynol?
Prif Bwyllgor y Wobr. Sef grwp bychan o wirfoddolwyr (dim mwy nag 8 aelod) sy’n dod o gefndiroedd amrywiol ac sy’n cynrychioli wyneb cyhoeddus y Wobr. Eu rôl nhw yw adolygu argymhellion y Pwyllgor Arbenigol yn ogystal â chyflwyno asesiad o ddarpariaeth a statws cyflawn y Wobr fel Anrhydedd Genedlaethol.
29. Onid yw cael tair haen o ddetholiad yn fiwrocratig?
Nac ydy. Mae’n bwysig iawn bod y grwpiau sy’n cael eu henwebu gan y gymuned leol yn cael eu hystyried yn lleol i ddechrau gan bobl o’r gymuned honno.
30. Os nad yw grwp yn cael ei ddethol, a fydd yr enwebiad yn cael ei ystyried eto'r flwyddyn nesaf?
Ystyrir enwebiadau ar unrhyw adeg o fewn tair blynedd i’r enwebiad gwreiddiol. Efallai bydd Cyd-drefnydd y Wobr yn gofyn i chi gwblhau ffurflen yn cynnwys unrhyw wybodaeth newydd ynghylch y grwp rydych wedi ei enwebu yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y mae’r enwebiad yn gymwys ar gyfer ystyriaeth.
Os nad yw’r grwp rydych wedi ei enwebu yn llwyddiannus ar ôl tair blynedd, gallwch dybied bod yr enwebiad wedi dod i ben. Gallwch ail-enwebu’r grwp, ond mae canlyniad gwahanol yn annhebygol oni bai bod y grwp yn meddu ar gyflawniadau ychwanegol.
31. Os nad yw grŵp
yn cael ei ddewis, a fydd yr enwebiad yn mynd ymlaen i’r flwyddyn
nesaf?
Ni fydd enwebiadau aflwyddiannus yn cael eu cario ymlaen yn awtomatig
i’r flwyddyn nesaf oherwydd mae’n bosibl y bydd natur
y grŵp a’i waith wedi newid yn y cyfamser. Gellir ailgyflwyno
enwebiadau ar ôl eu diweddaru.
|