arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English version return home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
small arrow Meini prawf y wobr
  small arrow
  small arrow Y broses ddewis
  small arrow Logos
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office - Office for the Third Sector
Cwestiynau Cyffredin  

Proses Enwebu

16. Sut mae grwpiau’n llwyddo i gael eu hystyried?
Rhaid i grwpiau gael eu henwebu, er enghraifft gan y rhai sy’n cael budd o’u nhw, aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus, neu grwpiau gwirfoddol eraill. Wrth enwebu grŵp, rhaid i enwebydd ddarparu geirda a datganiadau gan ddau ‘gefnogwr’.

17. Pam na chaiff grwpiau eu henwebu eu hunain?
Oherwydd ein bod ni am glywed gan bobl sy’n gallu adrodd yn annibynnol ar effaith grŵp ar y gymuned. Beth bynnag, mae’n amheus gennym ni a fyddai llawer o grwpiau yn teimlo’n gyfforddus i roi eu henwau’n ymlaen.

18. Pwy all weithredu fel enwebydd?
Unrhyw un nad yw’n gysylltiedig â rhedeg grŵp, neu’n bartner neu’n berthynas i unrhyw un sy’n ei redeg, neu rywun nad yw’n wirfoddolwr.

19. Pwy all weithredu fel cefnogwr?
Mae angen dau gefnogwr. Rhaid iddynt beidio â bod yn gysylltiedig â rhedeg y grŵp, neu fod yn berthynas i unrhyw un sy’n ei redeg. Gall gwirfoddolwr gyda’r grŵp, neu rywun sy’n elwa ar ei wasanaethau, fod yn gefnogwr, ond, os felly, rhaid i’r cefnogwr arall fod yn gwbl annibynnol ar y grŵp.

20. Sut mae gwneud enwebiad?

Rhaid cyflwyno pob enwebiad trwy’r post: Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol, d/o Consolidated, 22 Endell Street, Llundain WC2H 9AD. Gallwch gael y ffurflen drwy:

21. A allaf i gyflwyno fy enwebiad ‘ar-lein’?
Na ellwch, oherwydd bod yn rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr enwebydd a’r cefnogwyr yn bersonol.

22. Beth os oes angen cymorth arnaf i gwblhau’r ffurflen?

Dim problem! Ffoniwch swyddfa Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol ar 020 7781 2397 a byddwn yn barod i’ch helpu.

23. Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau?

Nid oes dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni enwebiadau ond byddwn yn ystyried eich grwp am Wobr yn ystod y flwyddyn yn dilyn yr enwebiad.