arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English version return home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
small arrow
  small arrow Y broses enwebu
  small arrow Y broses ddewis
  small arrow Logos
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office - Office for the Third Sector
Cwestiynau Cyffredin  

Meini Prawf y Wobr

1. Beth yw’r Wobr hon?
Mae’r Wobr, sy’n debyg i Wobr y Frenhines ar gyfer Menter, yn cydnabod y rôl hollbwysig mae’r cannoedd o filoedd o grwpiau gwirfoddol yn chwarae yn y gymuned. Nododd datganiad y Wobr yn 2002 achlysur Jiwbilî Aur y Frenhines.

2. Faint fydd y cynllun yn parhau?
Gwobr flynyddol fydd hon a fydd yn ffordd o gofio’n barhaol am y Jiwbilî Aur. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu ar ôl tair blynedd i asesu pa mor effeithiol y mae wedi gweithio.

3. Am beth mae’r wobr yn cael ei rhoi?
Mae’r wobr yn cydnabod gwaith eithriadol gan grwpiau o ddau neu fwy o bobl yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw sy’n rhoi’n wirfoddol o’u hamser i wella ansawdd bywyd a rhoi cyfle i unigolion neu grwpiau eraill yn y gymuned.

4. Beth yw’r meini prawf?
Bydd grŵp llwyddiannus wedi dangos ei fod:

  • yn cwrdd ag angen penodol;
  • yn darparu gweithgareddau gwirfoddol o ansawdd da iawn sy’n canolbwyntio ar y gymuned;
  • wedi creu llawer iawn o ewyllys da a pharch ymysg y rhai y mae’n eu gwasanaethu a’r gymuned yn gyffredinol;
  • wedi datblygu’n lleol ac yn cael ei redeg gan bobl leol; ac,
  • â hanes o ymwneud â’r gymuned, fel rheol dros gyfnod o dair blynedd neu fwy, er lles cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol unigolion neu grwpiau lleol.

5. Pwy sy’n gymwys?
Gellir enwebu grŵp (dau neu fwy o bobl) ar gyfer y Wobr os yw’n:

  • darparu gwasanaeth o safon uchel er lles unigolion neu grwpiau yn y gymuned;
  • gweithredu ac yn darparu gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig;
  • gweithredu ers o leiaf 3 blynedd, (er y gellir gwneud eithriadau ar gyfer prosiectau tymor byr);
  • cynnwys gwirfoddolwyr yn unig (gan gynnwys Ymddiriedolwyr) neu’n cynnwys rhywfaint o staff cyflogedig, ond mai lleiafrif ydynt.

6. A fydd grwpiau sy’n gweithredu dramor yn gymwys?
Na fyddant. Gwobr yw hon ar gyfer y rhai hynny sy’n gweithio yn y DU. Mae’n fwy priodol bod y rhai hynny sy’n gweithio dramor yn cael eu cydnabod o dan y system Anrhydeddau.

7. Beth am elusennau?
Mae llawer o sefydliadau bach a grwpiau wedi eu cofrestru fel elusennau, ac mae yna grwpiau o wirfoddolwyr sy’n gweithio o dan nawdd yr elusennau mwy. Mae’r rhain i gyd yn gymwys, ar yr amod nad ydynt yn ymwneud â chodi arian yn unig. Mewn geiriau eraill, rhaid i grwpiau ddarparu gwasanaeth i’r gymuned hefyd yn ogystal â’u gweithgareddau codi arian. Ymysg enghreifftiau o wasanaethau y mae cyngherddau, ffeiriau a chyfleusterau caffi mewn ysbytai.

8. Beth am gyfraniad unigolion?
Gellir cydnabod eu cyfraniad amhrisiadwy trwy’r system Anrhydeddau.

9. A ellwch chi roi enghreifftiau o’r math o grŵp fydd yn gymwys?
Mae dwsinau o bosibiliadau, ond rhai enghreifftiau yw grwpiau sy’n

  • gwella’r amgylchedd lleol;
  • cyfrannau at atal troseddu a diogelu’r gymuned;
  • rhedeg canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, clybiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon yn y gymuned;
  • darparu cyfleusterau ar gyfer plant (ee cynlluniau chwarae gwyliau neu glybiau ar ôl ysgol);
  • rhoi cymorth i’r rhai hynny sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
  • cynnig cymorth neu gyfleusterau arbennig i grwpiau megis pobl oedrannus neu anabl;
  • rhoi cymorth i bobl sydd wedi dioddef trosedd;
  • gweithio gyda theuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sy’n wynebu caledi;
  • mynd i’r afael ag anghenion penodol cymunedau du neu ethnig lleiafrifol; neu
  • rhedeg grwpiau hunan-gymorth, ee ar gyfer teuluoedd pobl sy’n dioddef o afiechydon prin.

10. Faint o grwpiau fydd yn ennill gwobrau bob blwyddyn?
Hyd at 200.

11. Pam 200?
Ar ôl ystyried y mater yn ofalus iawn, barnwyd mai hwn oedd y nifer briodol.

12. Beth fydd yr enillwyr yn ei dderbyn?
Tystysgrif wedi ei llofnodi gan y Frenhines a darn o risial i goffáu’r achlysur i’w arddangos yn eu prif ganolfan. Cyflwynir y Gwobrau ar ran y Frenhines gan yRhaglaw Lywodraethwr ar gyfer y sir y mae’r grŵp yn gweithredu ynddi.

13. Sut bydd y wobr a’r dystysgrif yn edrych?

Bydd y wobr a’r dystysgrif i’w gweld yma ar 2il Mehefin 2003

14. Am ba hyd fydd y grwpiau’n cael cadw’r Wobr?
Cyhyd ag y bydd y grwp yn parhau i weithredu. Cysylltir y Wobr â’r flwyddyn pan enillwyd y Wobr (e.e. ‘Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol 2008’) gyda’r grwpiau buddugol yn cael defnyddio’r teitl hwnnw ar lythyrau swyddogol ac ati, os oes ganddynt rai.

15. Pryd bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi?
Cyhoeddir y Gwobrau cyntaf ar 2il Mehefin 2003 (hanner canfed pen-blwydd Coroni’r Frenhines). Bydd ail rownd y Gwobrau’n cael ei lansio’r un pryd.