arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English versionreturn home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office - Office for the Third Sector
Astudiaethau Achos  

2006

0-F | G-L | M-Z

Gwasanaeth Ymgyfeillio Praxis

Mudiad iechyd meddwl gwirfoddol yw Gwasanaeth Ymgyfeillio Praxis sy’n darparu gofal a chyfeillgarwch i’r rhai sydd wedi eu hynysu’n gymdeithasol gan iechyd meddwl.  Cafodd y cynllun ei sefydlu fel cangen o lety â chymorth, ar y dechrau i gwrdd ag anghenion pobl oedd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ac mae’n rhan o amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan Grŵp Gofal Praxis.

Mae’r mudiad yn gweithio mewn nifer o drefi a dinasoedd Gogledd Iwerddon ac mae wedi tyfu’n gyson dros y blynyddoedd.  Mae’r cynllun yn galluogi pobl â salwch meddwl i deimlo’n rhan o’r gymuned, yn y gobaith o annog datblygu diddordebau personol a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth o fewn eu cymuned.

Mae gwaith y gwirfoddolwyr wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus ac ar hyn o bryd mae 110 o barau gwirfoddolwr a phartner.  Mae llawer o’r gwirfoddolwyr hyn wedi derbyn gwobrau am flynyddoedd o wasanaeth, sydd wedi helpu i godi’r ysbryd ac i roi ymdeimlad o falchder iddynt yn eu gwaith.

Cyswllt: Alyson Dunn
Ffôn: 02890 234 555
Gwefan: www.praxiscaregroup.org.uk

Panthers Preston

Carfodd Panthers Preston ei sefydlu oherwydd y diffyg darpariaeth chwaraeon a hamdden yn Ninas Preston ar gyfer pobl ifanc ag anableddau.  Mae’r clwb yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc megis nofio, athletau, gemau tîm, chwarae sylfaenol ac yn fwy diweddar, dringo mynyddoedd a gweithgareddau awyr agored.

Mae’r clwb yn gweithio gyda phob plentyn sy’n cael ei gyfeirio neu sy’n mynychu, ac nid yw byth yn eithrio plentyn waeth beth yw ei ymddygiad, sy’n aml yn gysylltiedig â’i allu.
Llwyddiant mwyaf y clwb yw presenoldeb cyson grŵp craidd o wirfoddolwyr.  Mae hyn wedi helpu i adeiladu sylfaen gadarn, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chefnogaeth rhwng gwirfoddolwyr, pobl ifanc a’u rhieni.

Yn ddiweddar, bu’r clwb yn wynebu cau i lawr oherwydd cyllid.  Er hynny, drwy rym penderfyniad, ymroddiad a ffyddlondeb gan grŵp craidd o rieni, mae’r clwb nid yn unig wedi cynnal ei hun, ond wedi tyfu yn ei niferoedd.

Cyswllt: Marilyn Gregson
Ffôn: 01772 719025
Symudol: 0771 9599537
Preston Panthers (Canolfan Hamdden West View): 01772 796788
Gwefan: www.prestoncitycouncil.co.uk

Cymdeithas Marchogaeth i’r Anabl (RDA)

Mae Cymdeithas Marchogaeth i’r Anabl yn darparu cyfleoedd marchogaeth ceffylau a gyrru cerbydau i bobl ag anableddau corfforol ac i bobl ag anawsterau dysgu o Coleraine a’r cyffiniau.
Mae gan y grŵp arena a stablau ar gyfer naw ceffyl ac mae’n rheoli gweithrediad a chynnal a chadw’r cyfleusterau.  Mae’r gwirfoddolwyr yn codi arian, yn rhedeg y cyfleusterau ac yn darparu arweinwyr a cherddwyr marchogaeth ar gyfer pob ceffyl gan ddibynnu ar brofiad ac anghenion y marchog.

Bob mis byddant yn codi £1000 i dalu am gadw’r ceffylau ac am weithredu a chynnal a chadw’r cyfleusterau, gan roi o’u hamser yn rhad ac am ddim i hyrwyddo’r grŵp a’i fanteision, gyda’r holl arian yn cael ei roi tuag at ddarparu’r gwasanaeth.

Sefydlwyd RDA 30 mlynedd yn ôl pan welodd ei sylfaenwyr yr angen i ddarparu gweithgaredd therapiwtig  llawn hwyl i’r rheiny ag anableddau, a’u teuluoedd, yn y gymuned leol.  Yn y 12 mis diwethaf, mae’r gymdeithas wedi helpu dros 120 o bobl o bob oedran, cefndir a chrefydd o’r gymuned gyfan.

Mae’r RDA hefyd yn ehangu ac ar fin symud i safle mwy, 13.5 erw, gydag adeiladau newydd a gwell, a darparu cyfleuster aml-chwaraeon yn ogystal â’r gweithgareddau presennol.  Mae’r grŵp yn wynebu’r her o godi’r arian ar gyfer y symudiad hwn, gan y bydd angen o gwmpas £1miliwn ar y prosiect dros y flwyddyn nesaf.  Mae’r grŵp eisoes wedi codi £115,000 tuag at y prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi hwyluso prynu’r safle newydd, ac mae’r grŵp eisoes wedi sicrhau grant o £200,000 gan Gyngor Bwrdeistref Coleraine.  Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn gweithio gyda Chronfa Chwaraeon y Loteri a chyrff eraill er mwyn denu cyllid grant mawr i gwblhau’r prosiect.

Meddai David McClarty, Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon:
“Mae gen i lawer o wybodaeth bersonol am y grŵp a’r cyfraniad enfawr y mae’n ei wneud i Ardal Coleraine.  Nid oes unrhyw berson haeddiannol ag anableddau’n cael ei droi i ffwrdd.  Rydw i wedi bod yn dyst, yn aml, i’r ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad personol a datblygiad hunan barch personol y bobl ar ôl iddynt fod i’r RDA.”

Meddai Albert Clyde, Ysgrifennydd y Grŵp, gan siarad ar ran y Grŵp:
“Rydym yn ei theimlo hi’n anrhydedd fawr i dderbyn y Wobr hon.  Mae’n gydnabyddiaeth o ymroddiad a gwasanaeth gwirfoddolwyr dirifedi dros y 30 mlynedd diwethaf.  Ar hyn o bryd, mae rhyw 50 o Wirfoddolwyr yn dod i arena’r RDA bob wythnos, gan ddarparu gwasanaeth marchogol sy’n therapiwtig ac yn cynnig hamdden i dros 100 o bobl anabl.  Ar ben hyn, mae’r Grŵp yn y broses o ddarparu Canolfan newydd yn Castlerow, fydd yn darparu Canolfan Aml-Chwaraon o’r radd flaenaf, a gwasanaeth cyfeirio ar gyfer pobl anabl ledled yr ardal.”

Cyswllt:  Albert Clyde, Ysgrifennydd Anrhydeddus
Ffôn: 0287 0320 147
Gwefan: www.rdacauseway.blink2.com
E-bost: rdacoleraine@hotmail.com

Hwylio i’r Anabl

Mae gan yr Elusen Hwylio i’r Anabl ar Ynys Manaw dros 100 o aelodau, heb gyfrif y bobl ifanc ag anableddau dysgu o ysgolion ac oedolion mewn unedau anghenion arbennig.  Mae’r olaf hyn yn ffurfio canran uchel o’n gweithgaredd yn ystod misoedd yr haf.  Mae’r elusen yn falch i fod yn berchen ar gwch hwylio Bavaria 46 troedfedd, 8 gwely, “Pride of Mann II”, sydd wedi ei hangori yn harbwr Douglas.  Mae ganddi rai addasiadau, yn cynnwys sling codi i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, pwyntiau harnais a dolenni gafael i’r anabl.

Mae hwylio’n elfen graidd o ddiwylliant a hanes Ynys Manaw.  Mae’r elusen yn darparu rhaglenni sy’n caniatáu i aelodau abl ac anabl i gael y cyfle i ddysgu sgiliau hwylio megis criwio, mordwyo a gwaith rhaffau.  Mae’r Elusen yn ymroddedig i annog llongwyr anabl i fod mor annibynnol â phosibl, gan godi hunan barch y rhai sy’n cymryd rhan a’u hyder yn y dŵr.  Mae llawer o’r llongwyr sy’n dod i gymryd rhan yn mynd ymlaen at hwylio ar lefel meistr llong yr RYA.  Dywed y rhai sy’n cymryd rhan fod gallu hwylio a chymryd rhan gyda phobl abl ar yr un lefel yn rhoi ymdeimlad enfawr o fodlonrwydd a chyflawniad iddynt.

Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am bob agwedd o’r cynllun, yn trefnu hyfforddiant, yn delio gyda’r gweinyddu ac yn sicrhau nawdd.  Mae gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant proffesiynol mewn partneriaeth gyda chynllun Sailability’r RYA, a gallant ddelio gydag amrediad eang o anawsterau y gall person anabl eu profi tra’n hwylio.

Mae’r Elusen yn chwilio am aelodau newydd yn barhaus, i hwylio ac i godi arian, yn ogystal â chwilio am noddwyr Corfforaethol ac unigol.  Mae’r Elusen yn ariannu ei hun yn llwyr, ac nid oes ganddi unrhyw swyddogion na gweinyddwyr sy’n cael eu talu.

Cyswllt:
Alan Cope (Cadeirydd)         
01624 812121                        
E-bost: acope@mcb.net            
Marion Bolam (Cysylltiadau Cyhoeddus)
01624 812121
E-bost: acmarion@mcb.net       

Sangam – Cymdeithas Menywod Asiaidd

Mudiad ddim er elw yw Sangam - Cymdeithas Menywod Asiaidd, a sefydlwyd ac sy’n cael ei ariannu a’i reol gan Fenywod Asiaidd.  Mae’r grŵp yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gymuned y fwrdeistref leol a’r un gyfagos.  Mae hefyd yn trefnu nifer o weithgareddau i’r cymunedau lleol yn cynnwys canolfan gynghori, clwb pobl hŷn, addysg ieuenctid a Chlinig Menywod Iach, y cyfan yn cael eu rheoli gan y gwirfoddolwyr.

Cychwynnodd y gymdeithas ym 1971, o ganlyniad i’r mewnlifiad o fewnfudwyr o Dde Ddwyrain Asia yn y chwedegau.  Roedd diffyg rhuglder yn Saesneg a diffyg dealltwriaeth o’r system yn gadael llawer o bobl Asiaidd yn teimlo’n ddiamddiffyn ac yn unig.  Fodd bynnag, drwy sefydlu Sangam, cafodd y menywod hyn rwydwaith gefnogi a gweithgareddau i’w helpu i gymdeithasu ac i integreiddio yn eu cymdeithas newydd.  Drwy ymroddiad parhaus a gwaith caled y gwirfoddolwyr, mae’r grŵp wedi tyfu ac ehangu gan helpu dros 6,000 o bobl leol mewn blwyddyn yn unig.
Mudiad elusennol, heb fod yn grefyddol nac yn wleidyddol, yw’r grŵp, ac mae’n agored er lles pob person yn y gymuned leol.

Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Wirfoddol Shanklin

Mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Wirfoddol Shanklin yn darparu rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau ar gyfer ieuenctid a chymuned South Wight mewn amgylchedd croesawgar a diogel.

Sefydlwyd y ganolfan ym 1963 mewn ymateb i’r diffyg clybiau ieuenctid yn y dref.  Mae llawer o’r gwirfoddolwyr wedi bod yn rhan o’r gwaith am 30 mlynedd, gan godi arian yn ddiflino i brynu’r adeilad.

Mae dros 500 o bobl yn defnyddio’r cyfleuster bob wythnos, yn rhedeg prosiectau ac yn gartref i nifer o grwpiau chwaraeon i ieuenctid anabl a’r rhai ag anableddau dysgu, sydd hefyd yn cael eu hannog i helpu gyda rhedeg y ganolfan.

Nid yw’r ganolfan yn derbyn unrhyw arian gan yr awdurdod lleol ac mae wedi codi arian drwy gyfrwng ffeiriau, dyddiau codi arian, beicio a chynnal cystadlaethau ar yr ynys i godi arian.  Mae hyn wedi galluogi’r ganolfan i ddod yn gwbl hygyrch a darparu gweithgareddau a hyfforddiant i bobl ifanc.  Mae’r ganolfan yn hybu annibyniaeth ac yn ymrymuso gwirfoddolwyr a phobl ifanc fel ei gilydd.

Cyswllt: Richard Priest
Ffôn: 01983 867 450
Symudol: 07919 323 838

Grŵp Menywod Sikh Nari

Mae Grŵp Menywod Sikh Nari’n hyrwyddo cydlyniad cymunedol a goddefgarwch crefyddol drwy drefnu digwyddiadau agored rhyng-ffydd, megis diwrnod mamau rhyng-ffydd a chiniawau rhyng-ffydd i’r henoed.  Mae’r grŵp hefyd yn trefnu cymysgedd eang o weithgareddau addysgiadol, cymdeithasol a hamdden, er enghraifft côr merched sy’n perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol.

Mae’r grŵp wedi annog menywod Asiaidd oedd wedi eu hynysu i gymdeithasu ac i integreiddio o fewn y gymuned leol.  Mae llawer ohonynt bellach yn defnyddio gwasanaethau prif-ffrwd, na fyddent wedi gwneud fel arall.  Mae’r grŵp wedi gwneud hyn drwy sefydlu gwasanaethau bron ar stepen drws y cymunedau hyn, gan leihau’r angen i deithio er mwyn cyrraedd y ddarpariaeth agosaf debyg yn ardal gyfagos Handsworth.

Mae’r grŵp hefyd yn cynhyrchu adnoddau dwyieithog at amrywiaeth o wahanol ddefnydd megis o fewn ysgolion lleol, ond sydd, yn enwedig, yn galluogi ieuenctid Sikhaidd o’r ail a’r drydedd genhedlaeth i ddatblygu gwerthfawrogiad o’u treftadaeth a’u hunaniaeth ddiwylliannol.
Mae’r gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser yn rhad ac am ddim i redeg stondinau codi arian, i helpu gyda chludo gwirfoddolwyr eraill ac offer i leoliadau cymunedol lleol, i goginio a darparu prydau bwyd mewn rota ar gyfer pawb sy’n dod i’r digwyddiadau cymdeithasol bob mis, yn ogystal â threfnu a rhedeg gweithgareddau yn ystod digwyddiadau blynyddol megis Sul y Mamau a Gŵyl Diwali.

Cyswllt: Gurdev Kaur
Ffôn: 0121 351 5191
Gwefan: www.sikhnarimanch.com

Ymatebwyr Cyntaf Silverdale

Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Cyntaf Silverdale sy’n cynnig cefnogaeth i’r gwasanaethau brys yn Silverdale, cymuned anghysbell ar ffin Lancashire a Cumbria.  Mae gwirfoddolwyr yn gofalu am y gwasanaeth 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, 365 dydd y flwyddyn.  Mae’r gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddi mewn technegau cynnal bywyd sylfaenol, CPR a rhoi ocsigen i glaf nes bod ambiwlans yn cyrraedd.

Sefydlwyd y cynllun bum mlynedd yn ôl gan barafeddygon mewn ymateb i’r ffaith fod rhaid i alwadau 999 aros hyd at hanner awr i ambiwlans gyrraedd.  Mae gwirfoddolwyr Ymatebwyr Cyntaf yn cyrraedd mewn cyfartaledd o 6 munud sy’n lleihau’r straen, y trawma a’r bygythiad i fywyd y claf yn sylweddol.  Mae pob gwirfoddolwr yn cael ei hyfforddi gan y Gwasanaeth Ambiwlans, ac mae’n rhaid iddynt basio prawf achredu chwe mis sy’n cael ei gydlynu gan hyfforddwr parafeddygol.

Mae’r 23 gwirfoddolwr sy’n rhedeg y cynllun yn byw yn y pentref ac yn cario peiriannau galw am shifft 12 awr ar rota benodol a chânt eu galw gan y Gwasanaeth Ambiwlans pan fydd galwad 999 yn cael ei dderbyn.  Mae dau wirfoddolwr ar ddyletswydd bob amser a byddant yn cysylltu â phencadlys lleol y gwasanaeth ambiwlans i ddweud wrthynt faint o’r gloch y maent yn disgwyl cyrraedd y claf.  Unwaith y bydd Ymatebwr Cyntaf yn cyrraedd y claf, bydd yn derbyn therapi ocsigen fel arfer, a byddant yn cymryd manylion yr hanes meddygol a’r symptomau gan eu trosglwyddo i’r parafeddygon ar ôl iddynt gyrraedd.  Bydd Ymatebwyr Cyntaf hefyd yn trefnu meddyginiaeth y claf, bag dros nos, rhoi gwybod i unrhyw deulu neu gymdogion, mynd ag unrhyw anifeiliaid anwes i gartref arall ac yn cloi’r tŷ.

Mae’r Ymatebwyr Cyntaf yn wasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr iawn gan y gymuned, llawer ohonynt yn hen ac yn byw ar eu pennau eu hunain.  Mae’r gwasanaeth yn derbyn llawer iawn o’i gyllid gan bobl leol, sy’n cydnabod y gwasanaeth pwysig, all achub bywydau, sy’n cael ei gynnig gan y cynllun.

Cyswllt: Sheila Suthers
Ffôn: 07958 637292 / 01524 702 533

Swyddfa Heddlu Cymunedol Southwater 

Ers dros ddeng mlynedd mae trigolion lleol Southwater wedi bod yn gwirfoddoli i helpu gofalu am eu swyddfa heddlu lleol a darparu cyswllt gweledol, sy’n cysuro ac yn gyswllt gwerthfawr iawn rhwng y gymuned leol a’r Heddlu.  Fe’i sefydlwyd yn 1996, yn dilyn ymgyrch gan wirfoddolwr lleol Gwarchod y Gymuned i gael tŷ arall yn lle’r hen dŷ heddlu, gafodd ei gau yn yr 1980au.  Mae Swyddfa Heddlu Cymunedol Southwater yn ffurfio rhan hanfodol o’r gymuned leol ac yn darparu gwasanaeth rhagorol i holl drigolion y pentref.

Mae gwirfoddolwyr yn delio gydag ymholiadau ac adroddiadau gan amrywiaeth eang o bobl leol.  Rhwng Ionawr 2004 a Ionawr 2005 yn unig, deliodd y swyddfa â 798 o ddigwyddiadau, 85% yn cael eu datrys heb i’r Heddlu ymyrryd.  Mae’r gwirfoddolwyr wedi cael eu hyfforddi gan y llu Heddlu lleol i ddelio gyda digwyddiadau yn amrywio o ymddygiad gwrthgymdeithasol i ddamweiniau ar y ffordd, ac maen nhw hefyd yn cynnig cefnogaeth i fentrau a chynlluniau atal troseddu yn y pentref.  Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi wynebu dyletswyddau mwy annisgwyl megis trefnu gwagio’r holl fusnesau lleol a meddygfa ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddod â siel magnel heb ei ffrwydro o’r Rhyfel Byd Cyntaf i mewn i’r Swyddfa, y daethpwyd o hyd iddo ar dir fferm.  Cafodd hwn ei danio’n ddiogel yn ddiweddarach gan y Fyddin.

Mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser eu hunain i sicrhau fod y gwasanaeth ar gael i’r gymuned leol, yn agor y swyddfa bum niwrnod yr wythnos ac ar fore dydd Sadwrn.  Mae’r ymroddiad hwn wedi ennill parch i’r gwirfoddolwyr gan yr Heddlu lleol a’r Cyngor, sy’n ystyried y Swyddfa yn gefnogaeth bwysig i’w gwaith yn y gymuned leol.  Mae llwyddiant y Swyddfa hefyd wedi annog cymunedau eraill i holi am wybodaeth ar sut i sefydlu Swyddfa yn eu hardal hwythau.
Dr David Scott yn Swyddfa Heddlu Cymunedol Southwater
Southwater Community Police Office  
23 Wilmington Way,
Patcham
Brighton
East Sussex, BN1 8JH
(01273 276690/ 07816 938858)

Man Cyfarfod Teuluol St Paul, Canolfan Cyswllt Plant

Mae Man Cyfarfod Teuluol St Paul, Canolfan Cyswllt Plant yn darparu amgylchedd cyfeillgar a diogel i deuluoedd sydd wedi gwahanu neu ysgaru sicrhau fod plant yn gallu cadw cysylltiad rheolaidd â rhiant neu fam-gu neu dad-cu.  Mae’r ganolfan yn cefnogi dros 250 o sesiynau cyswllt teuluol bob blwyddyn, yn darparu cyswllt â chefnogaeth ar gyfer y plant a’u rhieni, sy’n aml wedi ymddieithrio, gan gynnig lleoliad niwtral er mwyn osgoi gwrthdaro a drwgdeimlad.

Tadogir llwyddiant y ganolfan yn bennaf i ymroddiad ac agwedd y 28 gwirfoddolwr sy’n gweithio yn y ganolfan, yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i’r teuluoedd sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Daw’r teuluoedd sy’n defnyddio’r ganolfan o bob cefndir, ac mae’r ganolfan yn cynnig lle niwtral, heb fod yn fygythiol, i’r plant weld rhiant y byddent fel arall yn cael dim cyswllt, neu fawr ddim gyswllt â hi/ef.  Mae’r ganolfan yn cynnig sesiynau tair awr ddwywaith y mis ar brynhawn Sadwrn, yn gweithredu fel man i’r rhieni gwrdd â’u plant mewn sesiynau cyswllt wedi’u trefnu ac fel man gollwng/trosglwyddo plant i sicrhau fod gan y ddau riant fynediad rheolaidd at eu plant.
Mae’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y ganolfan yn brofiadol ac wedi eu hyfforddi i ddelio ag unrhyw faterion all godi.  Gall ymweliadau fod yn straen i rieni yn aml, ac mae gwirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth i’r prif ofalwr ac i’r rhiant sydd wedi dieithrio.  Mae’n rhaid i wirfoddolwyr hefyd gadw at reoliadau a safonau Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant, gan gyflwyno gwaith papur yn rheolaidd, ac mae’n adlewyrchiad o’u hymroddiad fod hwn yn cael ei gwblhau i safon uchel iawn.

Meddai’r cydlynydd Ann Baker: 'Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y wobr hon.  Mae gwaith gwirfoddol mor aml yn cael ei anghofio, felly mae cael ein cydnabod a’n gwaith yn cael ei werthfawrogi yn anrhydedd fawr.  Hoffai’r Ganolfan ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser i wasanaethu’r gymuned.  Hebddynt hwy ni fyddai’r Ganolfan yn gallu hwyluso cyfarfodydd i safon mor broffesiynol.  Diolch hefyd i Eglwys St Paul, sydd wedi’n cefnogi a’n hannog o’r dechrau.’

Cyswllt: Ann Baker
Ffôn: 01344 303960

Fforwm Pobl Hŷn Sutton

Mae Fforwm Pobl Hŷn Sutton (SSF) yn anelu i hyrwyddo lles a diddordebau’r bobl hŷn ym Mwrdeistref Sutton, Llundain, drwy ddarparu platfform lle mae modd trafod materion sy’n achos pryder i’r henoed.

Cyn sefydlu’r SSF ym 1996, nid oedd mudiad yn edrych ar ôl neu’n cynrychioli buddiannau pobl hŷn Sutton.  Yn benodol, mae llwyddiant y fforwm wedi bod yn ganlyniad i’w ymrwymiad i helpu menywod hŷn, sy’n byw ar eu pen eu hun, llawer ohonynt wedi eu hynysu o’r gymdeithas.  Mae’r fforwm wedi eu helpu i gymdeithasu gyda phobl eraill drwy gyfrwng gweithgareddau a theithiau y mae’r fforwm yn eu trefnu i’w aelodau.

Ers iddo gael ei sefydlu, mae’r fforwm hefyd wedi bod yn effeithiol wrth lobïo ac ennill cydnabyddiaeth amlwg i fuddiannau pobl hŷn ym Mhartneriaeth Sutton a’r Cynllun Cymunedol.  Mae ei aelodau hefyd yn perthyn i’r Grŵp Ymgynghori ar y Strategaeth Pobl Hŷn, sy’n eu galluogi i hyrwyddo polisïau a materion lleol sy’n effeithio ar bobl hŷn.

Mae’r fforwm wedi herio rhagfarnau negyddol am bobl hŷn, gan weithio ar brosiectau rhyng-genhedlaeth i helpu mynd i’r afael ag ofn troseddau ymysg yr henoed yn y gymuned leol.  Yr SSF yw’r fforwm mwyaf o’i fath yn Llundain Fwyaf, gan ddenu dros 150 o bobl i’w gyfarfodydd, a thrwy ei lythyr newyddion, mae llawer mwy o bobl yn y gymuned yn cadw cysylltiad â’i brosiectau.
Meddai David Dombey, cadeirydd Fforwm Pobl Hŷn Sutton: “Rydym wrth ein bodd i gael ein hanrhydeddu drwy dderbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.  Mae gwirfoddolwyr y fforwm yn gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau fod buddiannau ei aelodau’n cael eu gwarchod, ac mae’n wych i weld ein holl waith caled yn cael ei gydnabod gan wobr mor bwysig.”

Cyswllt: David Dombey
Ffôn: 0208 401 2741
E-bost cyffredinol: suttonseniors@aol.com
E-bost: dombeyd@onetel.com

Cymdeithas Gala Tain

Grŵp o wirfoddolwyr yw Cymdeithas Gala Tain, sy’n gweithio gyda’i gilydd i drefnu digwyddiadau cymdeithasol er lles y gymuned gyfan.

Sefydlwyd y grŵp 18 mlynedd yn ôl gan aelodau’r gymuned i ddarparu adloniant traddodiadol i’r teulu ac i feithrin mwy o ryngweithio cymdeithasol.  Mae Gala Tain wedi dod yn fwy llwyddiannus o flwyddyn i flwyddyn, gan arwain at fwy o frwdfrydedd ac ymroddiad ymhlith ei wirfoddolwyr presennol, sydd yn eu tro’n annog rhagor o bobl i ymuno.  Heddiw mae Wythnos Gala Tain yn adnabyddus fel un o’r galas gorau yn yr Alban.

Mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud popeth sydd ei angen er mwyn cynllunio a rhedeg y digwyddiadau i gyd.  Mae’r economi leol yn Ross-shire yn dibynnu ar dwristiaeth ac mae diweithdra tymhorol yn broblem fawr yn y gymuned.  Mae Cymdeithas Gala Tain wedi ail-egnioli’r gymuned a busnesau lleol, gan helpu i greu newid parhaol yn yr ardal.

Meddai Alasdair Rhind, Cadeirydd Gala Tain: “Mae Cymdeithas Gala Tain yn hapus dros ben ac yn ei theimlo hi’n anrhydedd i gael ei ddewis yn enillydd Gwobr bwysig y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.  Mae’r Gymdeithas Gala’n gweithio’n galed iawn drwy gydol y flwyddyn i drefnu ac i gynnal digwyddiadau cymdeithasol i gymuned gyfan Tain a’r ardal gyfagos, ac maen nhw’n grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig a brwdfrydig, sy’n gweithio’n eithriadol o galed.  Drwy eu gwaith, mae’r grŵp wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau cymdeithasol y gymuned yn ogystal â chael effaith economaidd drwy ddenu llawer iawn o ymwelwyr i’r ardal.  Dros y blynyddoedd mae’r Gymdeithas Gala wedi dangos pa mor llwyddiannus y gall grŵp o wirfoddolwyr fod yn dod â’r gymuned gyfan at ei gilydd, a’r gwahaniaeth all gael ei wneud mewn cymuned.  Mae cael cydnabyddiaeth o’u hymdrechion, a chael eu gwobrwyo fel hyn, yn gwneud i’r gwaith caled ymddangos yn fwy gwerth chweil fyth.”

Cyswllt: Alasdair Rhind
Ffôn: 01862 892 521

Cymdeithas Gymunedol Tipton  

Sefydlwyd Cymdeithas Gymunedol Tipton (TCA) ym 1964 gan grŵp bach o bobl oedd yn teimlo nad oedd gan Tipton ddim i’w gynnig o ran cyfleusterau hamdden i’r gymuned leol.

Mae’r TCA yn gwneud ei orau i ddod â mudiadau ac unigolion at ei gilydd er lles y gymuned gyfan.  Mae’r Gymdeithas hefyd yn helpu i lenwi bylchau mewn gwasanaethau cymunedol ac yn darparu cyfleoedd i unigolion wneud gwasanaeth cymunedol gwirfoddol.  Drwy gydol y flwyddyn, mae’r grŵp yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, yn cynnwys y carnifal (gafodd ei adfer gan y grŵp ar ôl bwlch o ryw 30 mlynedd), gwasanaethau coffa, marchnad Nadolig a theithiau cyfranogiad cymunedol.

Y Gymdeithas a sefydlodd canolfan gymunedol annibynnol gyntaf y dref ym 1972 ac mae hefyd yn gweithredu Canolfan Adnoddau Cymunedol Tipton.  Mae’n rheoli cyfleusterau megis pebyll mawr, stondinau marchnad a systemau sain, sydd ar gael i grwpiau cymunedol am bris rhesymol.
Mae’r gymdeithas wedi brwydro’n aml gyda chyllido, ond mae wedi llwyddo i drefnu digwyddiadau o hyd i’r gymuned eu mwynhau.  Mae symiau bach o gyllid yn awr yn dod ar gael gan Bwyllgor Tref Tipton, er nad oes gwarant o hyn o gwbwl.

Y TCA yw’r grŵp cymunedol hynaf yn Tipton, ac mae’n dod â phob rhan o’r gymuned leol at ei gilydd, gan greu awyrgylch dda ac amgylchedd fyw fwy cyfeillgar.

Meddai Barry R, Whitehouse, aelod cychwynnol a llywydd Cymdeithas Gymunedol Tipton: “Mae hwn yn newyddion gwych.  Ar ôl 43 mlynedd o wasanaethu cymuned Tipton, mae’r gwaith gwirfoddol ac ymroddiad llwyr swyddogion ac aelodau TCA wedi cael ei gydnabod o’r diwedd a hynny o’r lefel uchaf.  Mae’n fendigedig, a diolch o galon i’r rhai a’n henwebodd.”

Cyswllt: Barry Whitehouse
Ffôn: 0121 557 2777(adref) 0121.522.4044(swyddfa)
Symudol: 07795.694896
E-bost: barrywhitehouse@blueyonder.co.uk

Cymdeithas Chwaraeon i’r Anabl Ardal Windsor Ascot Maidenhead (WAMDSAD)

Mae Cymdeithas Chwaraeon i’r Anabl Ardal Windsor Ascot Maidenhead (WAMDSAD) yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i bobl anabl yn gorfforol ac yn synhwyraidd, gan roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel, na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.
Sefydlwyd WAMDSAD 30 mlynedd yn ôl mewn cydweithrediad â Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead, mewn ymateb i’r diffyg cyfleusterau a chyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon.  Heddiw mae wedi sefydlu ei hun fel rhan hanfodol ac uchel ei barch o gymuned Maidenhead.  Bu llawer o aelodau anabl WAMDSAD yn hyfforddi yn WAMDSAD ar gyfer y Gemau Paralympaidd, gyda WAMSDAD yn cael ei gynrychioli yn nhîm Prydain y Gemau Paralympaidd ers iddo gael ei ffurfio.  Yn 2004 daeth tri aelod yn ôl o Gemau Olympaidd Athens gyda medalau Aur, Arian ac Efydd.

Mae llwyddiant WAMSAD yn ganlyniad nid yn unig i’r cyfleusterau, ond mae rhan hanfodol o’i lwyddiant diolch i’w wirfoddolwyr sy’n helpu gyda’r gwaith o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd ac yn hyfforddi timoedd chwaraeon.

Cyswllt: John Jenkins
Ffôn: 0118 903 4073
Symudol: 0797 629 7835

Ymddiriedolaeth Winsford

Mae Ymddiriedolaeth Winsford yn cynnig canolfan ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, addysgiadol, iechyd a hamdden, yn cynnwys cyfleusterau galw i mewn y gall unrhyw un eu defnyddio, waeth beth yw eu hoed na’u gallu.

Sefydlwyd y ganolfan pan ffurfiodd yr elusen a phrynu cyn ysbyty bach ym 1999.  Cau’r ysbyty bach, yn ogystal â dau gartref preswyl, adawodd fwlch mawr ar eu hôl i’w llenwi gan ystyried y boblogaeth hŷn, a hyn yw nod y mudiad o hyd.  I rai o’r henoed, y cyfnod y maen nhw’n ei dreulio yn y ganolfan yw’r unig fynediad i gymdeithasu sydd ganddynt, ac i rai gofalwyr, efallai mai dyma’r unig seibiant a gânt.

Mae’r ganolfan yn dibynnu ar bobl leol yn gwirfoddoli, ac mae consensws eang bod y rhai sy’n rhoi o’u hamser bob amser yn barod i fynd y filltir arall.  Yn wir, ar gyfartaledd, mae’r gwirfoddolwyr yn cyfrannu tua 450 awr y mis.  Mae’r mudiad yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau sy’n dod â llawenydd i nifer o bobl fyddai’n unig iawn fel arall.

Er gwaethaf cefnogaeth helaeth gan y gymuned leol, mae cyllid bob amser yn broblem i elusennau bach fel Ymddiriedolaeth Winsford.  Mae digwyddiadau codi arian yn cael cefnogaeth dda bob amser ac mae rhai busnesau lleol bob amser yn gefnogol mewn ffyrdd ymarferol.

Cyswllt: Jill Thomas
Ffôn: 01409-231213

Canolfan Ieuenctid Woodingdean 

Canolfan Ieuenctid Woodingdean ger Brighton yn Sussex yw un o’r canolfannau ieuenctid prysuraf yn y ddinas, gyda phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o grwpiau, gweithgareddau, prosiectau a gweithdai.

Mae’r ganolfan, sydd wedi’i leoli mewn ardal wledig, yn cynnig lle i dros fil o bobl ifanc fynd bob blwyddyn; mae’r ganolfan yn dod yn ofod personol iddyn nhw, lle maen nhw’n rhan o’i redeg a’i gynnal a’i gadw hefyd.

Pwyllgor rheoli gwirfoddol sy’n rhedeg y ganolfan, ac mae’r pwyllgor yn rhan o bob agwedd o’r ganolfan – o redeg sesiynau, i gwblhau gwaith trwsio adeiladau, cyfrannu offer a gwasanaethu cyfrifiadurol y ganolfan.  Mae’r ganolfan yn rhedeg amrywiaeth o sesiynau bob nos o’r wythnos, yn amrywio o ymarfer band, clybiau dawnsio a rhaglenni gwirfoddoli.

Mae’r diolch am lwyddiant y Ganolfan Ieuenctid yn y blynyddoedd diwethaf i’w dadogi’n bennaf i ymroddiad Cadeirydd y Ganolfan, Tony Harris, ac Aelod o’r Pwyllgor, Dee Simson.  Cododd Tony a Dee dros £13,000 yn 2003 i adnewyddu’r ganolfan yn llwyr, gan ei fod wedi mynd i gyflwr eithriadol o wael.  Symudwyd dros chwe thunnell o sbwriel yn ystod y gwaith adnewyddu, a llwyddodd y ganolfan i osod cegin newydd sbon a ramp cadeiriau olwyn, gosod gwydr diogel a thrwsio’r to oedd yn gollwng.  Ail-agorodd y ganolfan ym mis Mawrth 2004, ac mae trigolion lleol wedi sylwi ar ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth i bobl ifanc ddychwelyd yn llu i’r ganolfan ieuenctid.

Mae ymroddiad gwirfoddolwyr yn y gymuned leol yn adlewyrchu llwyddiant y ganolfan.  Mae dros 33 o wirfoddolwyr o’r gymuned leol yn rhoi o’u hamser yn rheolaidd i wirfoddoli yn y ganolfan ac mae’r gymuned ehangach wedi dangos eu cefnogaeth drwy gyfrannu offer TG, dodrefn, setiau teledu, teganau a gemau.  Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc yn yr ardal sydd â phroblemau ymddygiad, anawsterau dysgu ac anableddau.
Mae’r ganolfan yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 eleni, ac mae’n cael ei gydnabod gan y gymuned leol a mudiadau yn y sir fel yr arweinydd wrth gefnogi a chadw sylw pobl ifanc.

Cyswllt: Dee Simson
Ffôn: 01273 291178 / 07753 762500
E-bost: Dee.simson@brighton-hove.gov.uk

 

0-F | G-L | M-Z