2006
0-F | G-L | M-Z
Gateway Wheelers
Bwriad Gateway Whellers yw darparu offer a chefnogaeth addas i alluogi pobl ag anableddau i fwynhau manteision beicio a bod allan yn yr awyr agored.
Cafodd y clwb ei sefydlu naw mlynedd yn ôl gan grŵp o bobl oedd yn frwdfrydig dros feicio, gyda’r bwriad o rannu eu hoffter o feicio gyda’r rheiny oedd ag anableddau corfforol ac anghenion arbennig. Ers hynny, mae’r clwb wedi parhau i ehangu ac i dyfu i gwrdd ag anghenion grŵp o gleientiaid sy’n tyfu o hyd ar draws ardal ddaearyddol ehangach.
Mae’r clwb yn rhoi cyfle i’w cleientiaid feicio ar feiciau arbenigol, na fyddai ganddynt fynediad atynt fel arall. Er enghraifft, gall pobl ddall neu â nam ar eu golwg ddefnyddio’r beiciau i ddau, gan eu rhannu gydag un o’r gwirfoddolwyr. Mae’r clwb yn rhoi cyfle i’w gleientiaid fwynhau’r awyr iach, ymarfer corff, ffurfio cyfeillgarwch a rhannu profiadau megis gweithio fel tîm ar y beiciau ochr-yn-ochr a’r tandemau.
Mae Gateway Wheelers yn eithriadol, gan ei fod yn hyblyg dros ben wrth fynd i’r afael â phob un o anghenion gwahanol ei gleientiaid, yn cynnig profiad iddynt i fwynhau’r awyr iach ar gefn beic; heb y clwb a’i wirfoddolwyr fyddai hynny ddim yn bosibl.
Cyswllt: Brian Milner
Ffoniwch: 0776 4495902
Gwefan: www.gatewaywheelers.org.uk
Gloucestershire Association for the Blind
Mae Cymdeithas y Deillion Sir Gaerloyw (GCBA) yn gweithio gyda dros 2500 o bobl â nam ar eu golwg yn y sir, yn eu cefnogi ac yn helpu i ddarparu ar gyfer eu hanghenion.
Sefydlwyd y GCBA ym 1858 ac mae’n darparu cyfleusterau, cefnogaeth, offer a llenyddiaeth ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Yn ogystal â hyn, mae gwirfoddolwyr y gymdeithas yn gweithio gydag awdurdodau lleol, mudiadau, cyrff, sefydliadau, ymddiriedolaethau neu gronfeydd, i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl â nam ar eu golwg. Ar ben hyn, mae’r grŵp yn gweithio gyda ffrindiau, teulu a gofalwyr pobl â nam ar eu golwg yn y sir.
Drwy gyfrwng gwasanaeth ymweld, mae’r GCBA yn rhoi’r cyfle i’w aelodau drafod eu cyflwr llygad gyda rhywun all gynnig cyngor ymarferol. Mae’r grŵp hefyd yn rhedeg cyfarfodydd Grwpiau Gwasanaeth Gwybodaeth i Aelodau, sydd wedi eu cynllunio i addysgu, hysbysu a darparu cefnogaeth y naill i’r llall ar gyfer pobl sydd newydd eu cofrestru â nam ar eu golwg neu’n ddall, ar faterion ymarferol megis defnyddio’r llyfrgell, diogelwch y cartref a defnyddio offer arbenigol. Mae’r GCAB hefyd yn darparu nifer fechan o yrwyr all helpu’r rhai â nam ar eu golwg mewn argyfwng.
Cyswllt: Marcus Green
Ffoniwch: 01242 221170
Gwefan: www.glos-blind.co.uk
Contact: Marcus Green
Call: 01242 221170
Website: www.glos-blind.co.uk
The Guernsey Specials Gymnastic Club
Mae Clwb Gymnasteg y Guernsey Specials yn rhoi cyfleon i blant a phobl ifanc gydag amrywiaeth o anghenion arbennig i wneud gymnasteg ar bob lefel. Mae’r clwb yn anelu at hyrwyddo datblygiad a hunan barch y plant y maen nhw’n eu helpu yn ogystal â rhoi cyfle i’r bobl ifanc sy’n gwirfoddoli ennill profiad o weithio gyda’r anabl, tra’n cyfrannu tuag at y gymuned ar yr un pryd.
Mae’r clwb yn cael ei redeg yn debyg i glwb gymnasteg ar gyfer pobl abl, ond gyda llawer mwy o gefnogaeth. Mae’r holl blant yn cymryd rhan yn holl weithgareddau’r clwb, er gwaethaf eu hamrywiaeth enfawr o anghenion, ac mewn rhai achosion eu hanableddau dwys, yn cynnwys awtistiaeth, a diffyg symudedd. Daw’r rhan fwyaf ohonynt o ysgolion arbennig, ond mae rhai plant sydd ag anghenion arbennig o ysgolion prif-ffrwd hefyd yn mynychu, megis rhai â lefel isel o hunan-barch, neu rhai sy’n dioddef yn sgil bwlio.
Tra’n gwneud eu gweithgareddau gymnasteg mae’r plant nid yn unig yn gwella eu ffitrwydd a’u hanableddau corfforol ond maen nhw hefyd yn dysgu gweithio fel tîm, dysgu rhannau’r corff, lliwiau, disgyblaeth, sgiliau cyfathrebu geiriol, trefniadaeth a sgiliau cymdeithasol eraill. Mae’r plant hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ar gyfer y Gemau Olympaidd Arbennig, a chafodd un aelod ei ddewis ar gyfer tîm gymnasteg y DU yn y Gemau Olympaidd Arbennig.
Sefydlwyd y clwb gan Sarah Bamford, ffisiotherapydd, mewn ymateb i angen yr oedd yn ei ganfod rhyw 12 mlynedd yn ôl ar ôl edrych ar fideo ar fanteision gweithgareddau gymnasteg i blant ag anghenion arbennig. Ar y pryd, doedd fawr ddim cyfle yn Guernsey i blant o’r fath gymryd rhan mewn gymnasteg.
Mae pwyslais y Clwb ar hunan-ganfod, hunan-barch, adeiladu hyder, cyflawniad a chynnydd personol. Rhoddir gwobrau am amrywiaeth o gyflawniadau, yn briodol i alluoedd yr unigolyn, ac mae plant yn ennill cryn hunan-barch drwy gynyddu at statws gwobrau. Mae budd i’r gymuned hefyd, gyda chanfyddiad pobl o blant ag anghenion arbennig yn gallu newid pan mae’n ymddangos eu bod yn gwneud cynnydd mewn gallu gymnasteg, ac mewn rhai achosion yn cyflawni statws ar yr ynys, yn genedlaethol neu hyd yn oed yn rhyngwladol.
Cyswllt: Sarah Bamford
Ffoniwch:
01481 238846
01421 238846
E-bost:sarahannbamford@cwgsy.net
Gwavas Residents Association
Mae Cymdeithas Trigolion Gwavas yn cynrychioli barn ac anghenion trigolion sy’n byw ar ystâd dai Gwavas yn Penzance, Cernyw. Mae’r ystâd wedi’i lleoli yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU, lle mae canran uchel iawn o drigolion ar incwm isel iawn.
Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli dros 250 o gartrefi, gyda dros 320 o drigolion yn cymryd rhan ymarferol mewn ymgyrch i hyrwyddo’r ardal ac i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar drigolion lleol. Mae’r gymdeithas wedi gwneud hyn drwy gyfrwng nifer o gynlluniau, sydd wedi dod â’r gymuned at ei gilydd, yn cynnwys grŵp ieuenctid, diwrnod ‘hwyl’ blynyddol a gweithgareddau drwy gydol gwyliau’r haf. Ymysg gweithgareddau eraill sydd ar gael mae hyfforddiant TG, dosbarthiadau celf a chrefft a chyrsiau cymorth cyntaf, sydd hefyd ar gael i holl oedolion yr ystâd. Mae’r Gymdeithas hefyd yn trefnu sesiynau galw i mewn ar gyfer trigolion gyda chynrychiolwyr Cyngor ar Bopeth, ymwelwyr iechyd a chynghorwyr cyflogaeth.
Mae llawer o’r 18 gwirfoddolwr sy’n gweithio i’r Gymdeithas wedi gwella eu sgiliau eu hunain drwy gael hyfforddiant ychwanegol i wella eu mewnbwn i’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu ar yr ystâd. Mae’r gwirfoddolwyr hyn hefyd yn cynrychioli’r ystâd ar nifer o fforymau lleol, gan sicrhau fod barn leol yn cael ei chynrychioli’n llawn. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi gorfod gorchfygu ei hanawsterau ei hun, yn cynnwys sicrhau swyddfa barhaol i’r grŵp redeg y gweithgareddau ohoni, a sicrhau cyllid digonol sy’n hanfodol er mwyn i’r Gymdeithas wneud effaith gwirioneddol ar y gymuned.
Meddai’r Cadeirydd, Jenny Beamish: 'Rydyn ni i gyd yn gyffrous dros ben am ennill y Wobr hon. Mae’n foddhad mawr fod cymdeithas trigolion yn cael ei chydnabod, gan fod ein gwirfoddolwyr yn cefnogi ac yn cynrychioli eu cymdogion a’u ffrindiau yn y gymuned ehangach. Hoffem ddiolch i’r Parchedig Drew am ein henwebu, a gobeithiwn y bydd y Wobr yn amlygu’r gwaith a wnawn dros y gymuned gyfan.’
Cyswllt: Jenny Beamish
Ffoniwch: 01736 36502
Helford River Children's Sailing Trust
Mae Ymddiriedolaeth Hwylio i Blant yr Afon Helford yn rhoi cyfle i blant rhwng 8 ac 11 oed ddysgu sut i rwyfo a hwylio.
Mae’r ymddiriedolaeth yn gwasanaethu un ar ddeg o ysgolion cynradd lleol a’r ysgol sirol i blant ag anghenion arbennig, yn cynnig, yn rhad ac am ddim, y defnydd o’i offer a’i staff sydd wedi’u hyfforddi. Fe’i sefydlwyd gan John Green ganol y 90au, mewn ymateb i’r diffyg amlwg o ieuenctid lleol yn cymryd mantais o’r cyfle i fwynhau ardal hwylio ysblennydd yr Afon Helford.
Mae pob ysgol yn darparu ei grŵp ei hun o wirfoddolwyr sy’n gweithredu fel hyfforddwyr hwylio, rhwyfo a morwriaeth. Yn rhinwedd ychwanegu dimensiwn ychwanegol i fywydau plant lleol, mae’r ymddiriedolaeth wedi rhoi’r hyder i blant i anelu’n uwch ac i fynd i’r afael â heriau y byddent wedi ystyried y tu hwnt iddynt cyn hynny.
Cyswllt: John Green
Ffoniwch: 01326 341 017
Gwefan: www.hrcst.org.uk
Holme Valley Mountain Rescue Team
Mudiad chwilio gwirfoddol yw Tîm Achub Mynydd Holme Valley, ac mae’n gweithio yn ardal ddeheuol Swydd Gorllewin Efrog. Mae’r tîm achub yn darparu gwasanaethau chwilio, achub, cyfleusterau cymorth cyntaf, offer a gweithwyr ar gyfer achub yn yr ardal leol.
Mae wedi bodoli ers 40 mlynedd a chafodd ei ffurfio’n wreiddiol mewn ymateb i farwolaeth drasig dau Sgowt wrth iddynt gerdded yn yr ardal. Mae’r tîm yn aelod o fudiad Achub Mynyddoedd Cymru a Lloegr ac yn aelod o fudiad Chwilio ac Achub Canol y Pennines.
Mae’r gwirfoddolwyr sy’n ffurfio’r tîm yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, gan weithio law yn llaw gyda Heddlu Swydd Gorllewin Efrog, Gwasanaeth Ambiwlans Metropolaidd Swydd Gorllewin Efrog a gwasanaeth Chwilio ac Achub yr RAF.
Mae’r tîm yn ymateb i tua ugain galwad allan y flwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol, sy’n deyrnged i waith caled ac ymroddiad yr aelodau dan sylw. Maen nhw’n rhoi o’u hamser yn rhad i hyfforddi, i gynnal a chadw a thrwsio offer ac i hyrwyddo’r mudiad a diogelwch wrth gerdded, dringo mynyddoedd a gwneud unrhyw weithgaredd awyr agored arall, yn enwedig i bobl ifanc.
Cyswllt: Peter Philips
Ffoniwch: 01484 686 289
Symudol: 07769 653 735
Homecall
Mae Homecall yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i gefnogi cleientiaid hŷn yn bennaf, â nam ar eu golwg, yn Nwyrain Sussex, er mwyn cynnal eu hannibyniaeth a brwydro unrhyw ynysu cymdeithasol y gallant fod yn ei brofi oherwydd colli golwg.
Mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chleientiaid yn wythnosol, gan ymweld â’u cartrefi i helpu gyda thasgau sylfaenol megis delio gyda gohebiaeth a materion ariannol o ddydd i ddydd, gwirio dyddiadau bwyta ar fwydydd ac archebu eitemau o gatalogau. Mae’r cymorth hwn yn hanfodol i lawer o gleientiaid Homecall, sy’n edrych ymlaen at eu hymweliad rheolaidd ac yn gwerthfawrogi’r dull personol, ond eto’n broffesiynol, o weithio. Mae cymorth gwirfoddolwr wedi’i hyfforddi yn rhoi’r hyder iddynt gynnal eu cyfranogiad yn y gymuned drwy gysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan mewn gweithgareddau o’u dewis hwy.
Gan fod gwirfoddolwyr yn aros gydag un cleient, maen nhw’n gallu adeiladu lefel o ymddiriedaeth sy’n annog cleientiaid i fod yn annibynnol. Bydd gwirfoddolwyr yn aml yn mynd â chleientiaid allan i de neu am dro, sy’n fanteisiol iawn i gleientiaid oedrannus sy’n byw ar eu pennau eu hunain. Mae’r gwirfoddolwyr eu hunain yn cael y profiad o weithio gyda chleientiaid yn werthfawr iawn, ac maent yn eu hannog i gael mynediad at wasanaethau neu fudiadau eraill, all fod o fudd iddynt a’u helpu i barhau i fyw’n annibynnol.
Meddai Liz Wilkinson o Homecall: "Roedden ni’n syfrdan, yn hapus ac yn falch iawn i gael ein dewis i dderbyn y wobr hon, sy’n adlewyrchiad o ymroddiad a gwaith caled pob un yn Homecall. Fe hoffem ddiolch yn arbennig i’n tîm rhagorol o wirfoddolwyr ffyddlon, llawer ohonynt wedi bod gyda Homecall am flynyddoedd lawer, gyda dau ohonynt wedi bod yn gwirfoddoli i ni am y cyfnod cyfan o un mlynedd ar hugain!”
Cyswllt: Liz Wilkinson
Ffoniwch: 01323 764597
E-bost: homecalldirector@hotmail.com
Gwefan:www.homecall.uk.com
Hormead Hares Football Club
Mae Clwb Pêl-droed Hormead Hares yn rhoi cyfle i bobl ifanc o Hormead a’r cymunedau cyfagos i hyfforddi, i chwarae pêl-droed ac i gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithasol y clwb. Cyn sefydlu’r clwb, roedd y cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal yn brin. Fodd bynnag, chwe blynedd yn ôl, aeth dau riant ati i newid hynny gan ffurfio Clwb Pêl-droed Hormead Hares ac o fewn dwy flynedd roedd wedi derbyn ei safonau siarter gan y Gymdeithas Bêl-droed.
Mae’r clwb yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan ei 40 gwirfoddolwr, sy’n rhedeg y clwb, yn cynnal y maes ac yn hyfforddi dros 200 o blant, bechgyn a merched rhwng 5 a 15 oed. Nod y clwb yw rhoi cyfle i bobl ifanc o’r ardal chwarae pêl-droed mewn amgylchedd o hwyl sy’n ddiogel. Mae’r clwb hefyd yn rhoi pwyslais ar helpu’r chwaraewyr i ddilyn ffordd o fyw iachach, ac yn rhoi’r cyfle iddynt gael y profiad o fod yn rhan o dîm ac i ddysgu parchu eraill. Y prif nod tu cefn i’r clwb yw bod yr ieuenctid, y rhieni a’r gwirfoddolwyr yn mwynhau eu hunain - ac os byddan nhw’n ennill gêm, mae hynny’n fonws!
Yn ogystal â’r hyfforddiant, mae’r holl chwaraewyr a gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithasol y clwb, sydd wedi cryfhau ymhellach ysbryd cymunedol yr ardal gan ei fod yn gweithredu i frwydro’r dylanwadau mwy negyddol sy’n gallu cael gafael mor hawdd mewn unrhyw gymuned.
Meddai Peter Worby, o Glwb Pêl-droed Hormead Hares: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol. Mae’r wobr yn glod gwirioneddol i’n tîm rhagorol o wirfoddolwyr, sy’n gweithio mor galed i sicrhau fod y plant yn mwynhau eu hunain ac yn cael gymaint allan o’r profiad â phosibl! I ni i gyd, nid yr ennill sy’n bwysig na chael ein talu – ond y rheswm dros ei wneud yw gwybod ein bod yn ei wneud er lles y plant a’u mwynhad nhw!”
Cyswllt: Peter Worby
Adref: 01920 821973
Symudol: 0780 3895937
Hospice for Burnley and Pendle
Mae Hosbis i Burnley a Pendle yn darparu ar gyfer anghenion arbennig pobl sydd â chanser neu salwch arall sy’n byrhau bywyd, yn benodol i ddarparu gofal lliniarol i bobl yn ardaloedd Burnley a Pendle. Gall yr hosbis wella ansawdd bywyd yn sylweddol i gleifion a’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Cyn sefydlu’r Hosbis, roedd rhaid i gleifion canser â salwch terfynol deithio i Ilkley, Rochdale neu Bolton i dderbyn gwasanaethau lliniarol arbenigol. Roedd hyn yn flinderus i’r cleifion ac yn gosod straen ariannol ac emosiynol mawr ar deulu a ffrindiau.
Ym 1986 bu’r Cyngor Eglwysi lleol a’r Soroptemyddion lleol yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio’r grŵp hosbis yn Burnley a Pendle. Erbyn 1990 roedd nifer y gwirfoddolwyr wedi cynyddu’n fawr ac roedd y gweithgareddau codi arian yn dal i dyfu.
Mae ethos yr Hosbis yn golygu fod cefnogaeth a chyngor yn cael eu darparu nid yn unig i bobl gyda salwch sy’n byrhau bywyd, ond hefyd i’w teuluoedd a’u ffrindiau sy’n brwydro i ddod i delerau â’r wybodaeth eu bod ar fin colli rhywun sy’n annwyl iddynt. Drwy ddarparu’r gwasanaethau hyn yn lleol, nid oes raid i gleifion a’u gofalwyr deithio yn rhy bell i dderbyn gofal arbenigol. Yn yr Hosbis, mae’r gofal yn cael ei roi’n ddiamod ac yn rhad ac am ddim i oedolion sydd ei angen waeth beth yw eu cefndir na’u credoau crefyddol neu ddiwylliannol.
Mae gwirfoddolwyr yr hosbis hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i deulu a ffrindiau cleifion. Mae’r perthnasoedd hyn yn creu ymwybyddiaeth gref iawn o deulu o fewn cymuned yr Hosbis.
Cyswllt: Brian Hartup
Ffoniwch: 01282 440 111
Symudol: 0790 6083 386
Gwefan: www.pendleside.org.uk
Interest Link Borders
Mae Interest Link Borders yn cysylltu oedolion sydd ag anableddau dysgu ar draws Gororau’r Alban gyda gwirfoddolwyr cydnaws sydd wedi’u hyfforddi er mwyn iddynt allu cwrdd yn rheolaidd i wneud gweithgareddau o’u dewis hwy, er enghraifft chwarae golff, nofio, gwylio adar a mynd i ddosbarthiadau nos neu’r sinema.
Mae’r gwasanaeth yn helpu gwella ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth drwy gynyddu annibyniaeth, gwell lles cymdeithasol, gwell iechyd corfforol a seicolegol a llai o ynysu ac allgau cymdeithasol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu seibiant i deuluoedd a gofalwyr ac yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o anableddau dysgu.
Ers cychwyn y gwasanaeth ledled y Gororau ym mis Tachwedd 2001, mae 180 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi elwa yn sgil cyfanswm o 240 cysylltiad. Mae angen gwasanaeth Interest Link oherwydd er bod y rhan fwyaf o oedolion sydd ag anableddau dysgu bellach yn byw yn y gymuned, maen nhw’n dal wedi eu heithrio’n gymdeithasol gan nad oes ganddynt gysylltiadau cymdeithasol y tu allan i’w teuluoedd neu mewn canolfan ddydd, na phrofiad o wneud ffrindiau a dim cludiant. Mae hyn yn rhwystredig, yn ynysig ac yn cyfyngu arnynt; nid oes modd iddynt ddilyn eu diddordebau, na chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol prif ffrwd, na gwneud dewisiadau, nac ennill sgiliau na datblygu annibyniaeth.
Mae Interest Link yn unigryw gan fod y gwasanaeth y mae’n ei gynnig yn cael ei deilwra i siwtio’r hyn y mae unigolion eisiau ei wneud a ble maen nhw eisiau ei wneud. Mae hefyd yn llwyddo i gael integreiddio cymunedol gwirioneddol drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr i gyflwyno’r gwasanaeth.
Meddai Cydlynydd y Prosiect, Andrew Findlay “Rydym yn ei theimlo hi’n anrhydedd fawr i fod wedi ennill y wobr hon, ac yn teimlo ei bod yn gydnabyddiaeth addas am yr holl waith caled y mae’n gwirfoddolwyr wedi’i wneud.” Dywedodd y cynullydd Mavis Clark (sydd hefyd yn wirfoddolwr gyda Changen Swydd Berwick) ei bod yn gobeithio y byddai’r wobr yn arwain at ragor o wirfoddolwyr yn ymuno â’r mudiad: “Mae gennym ni 250 o oedolion ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r gwasanaeth, ac ar y funud 100 sydd wedi’u cysylltu: rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod ein gwirfoddolwyr i gyd yn cael llawer iawn o foddhad a mwynhad o’u cysylltiadau ac rydym bob amser yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr i ychwanegu at ein tîm. Gellir cysylltu â ni ar 01573 410760 neu drwy’n gwefan ar www.interestlink.org.uk.”
Cyswllt: Andrew Findlay
Ffoniwch: 01573 410 760
Gwefan: www.interestlink.org.uk
Inverclyde Family Contact Centre
Mae Canolfan Cyswllt y Teulu Inverclyde yn gweithio tuag at adfer a hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol rhwng plant a rhieni absennol lle mae trefniadau cyswllt a wnaethpwyd cyn hynny wedi methu, yn aml oherwydd cam-drin yn y cartref neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau.
Nod y ganolfan yw helpu plant i gynnal cysylltiadau teuluol cadarnhaol gyda rhieni absennol. Mae’r teuluoedd sy’n cael eu cyfeirio at y ganolfan yn aml yn ifanc, gyda phroblemau cymdeithasol yn cynnwys dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, problemau iechyd meddwl neu faterion sy’n ymwneud â cham-drin yn y cartref.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn dilyn astudiaeth gan Fwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Eglwys yr Alban. Gwelodd ymchwil leol oedd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymwelwyr iechyd a chyfreithwyr bod anghydfod ynghylch materion cyswllt gan dros 100 o deuluoedd, llawer mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol.
Mae’r ganolfan yn darparu ystafelloedd wedi’u dodrefnu, gyda theganau addas ar gyfer pob oedran a chyfleusterau dan oruchwyliaeth. Mae’r gwirfoddolwyr yn helpu drwy gefnogi’r rhieni ac mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd i rieni a phlant sy’n fregus oherwydd camdriniaeth yn y cartref yn y gorffennol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r ganolfan wedi helpu 27 o blant rhwng 6 mis oed a 9 mlwydd oed.
Cyswllt: Margaret Foggie
Ffoniwch: 01475 724622
E-bost: Margaret@foggie.net
Jigsaw4u
Cafodd Jigsaw4u ei sefydlu ym 1998. Elusen plentyn-ganolog ydyw, sy’n cefnogi plant a phobl ifanc drwy golled a thrawma tra’n eu grymuso ar yr un pryd i gael llais wrth i benderfyniadau gael eu gwneud am eu bywydau eu hunain, a llais yn natblygiad Jigsaw4u a’i bolisïau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Amcanion cenedlaethol Jigsaw4u yw bod pob plentyn a pherson ifanc sydd wedi cael profiad o golled a thrawma yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt – ar yr adeg y mae ei hangen arnynt ac mewn modd y byddant yn ei gael yn gymorth ac yn hygyrch. Mae hefyd yn ceisio sicrhau y bydd gan bob ysgol, practis meddyg teulu ac ysbyty berson penodol i ddelio â cholled a thrawma ar hyd yr un llinellau â’r bobl broffesiynol presennol sydd wedi eu dynodi i arwain ar amddiffyn plant.
Mae’r bobl ifanc yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynhyrch ‘My Shout’, y cylchgrawn ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Roeddent yn gyfryngol wrth drefnu taith i Sri Lanka, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, i ddarparu cynghori i blant a ddioddefodd yn y Tsunami. Er mwyn cynyddu eu heffeithiolrwydd yn Sri Lanca, buont yn cysylltu â Helplanka, elusen leol wedi’i lleoli yma yn Carshalton, i gyfuno adnoddau a chysylltiadau. Mae’r gwirfoddolwyr yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi bod mewn profedigaeth yn ogystal ag oedolion i oruchwylio.
Mae’r dewis o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan Jigsaw4u yn helath ac yn cynnwys meysydd mor wahanol ag eiriol rhwng plant mewn perygl o ddigartrefedd a’u teuluoedd ac mewn sesiynau cyfrinachol gyda rhieni gwaed y mae eu plant wedi cael eu gosod i’w mabwysiadu. Mae gwirfoddolwyr hen ac ifanc hefyd yn helpu mewn bwrdeistrefi yn y DU yn rhoi cefnogaeth i’r rhai mewn profedigaeth, yn bod yn gyfaill, yn cyfrannu tuag at gylchgronau ac yn mynychu gweithdai a digwyddiadau.
Mae angen taer am Jigsaw4u gan fod disgwyl i lawer iawn o blant ddelio â cholled neu drawma heb fawr ddim cefnogaeth gan eu hysgo neu’r gwasanaeth iechyd. Mae angen lleol a chenedlaethol am Jigsaw4u.
Meddai Anne Davies, y Prif Weithredwr, “Rydym wrth ein bodd i dderbyn Gwobr y Frenhines. Diolch i bob un o’r plant a’r bobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc sydd wedi profi colled a thrawma.”
Cyswllt: Anne Davies (Chief Executive)
Ffoniwch: 0208 687 1384
Gwefan: www.jigsaw4u.org.uk
Knowetop Community Farm Volunteers
Mae Gwirfoddolwyr Fferm Cymunedol Knowetop yn gweithio i wella addysg ym meysydd garddwriaeth, amaethyddiaeth, gofalu am anifeiliaid, ailgylchu a materion amgylcheddol. Mae’r grŵp yn helpu i ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau hamdden gyda’r nod o wella cyflwr bywyd i bobl ifanc dan anfantais.
Sefydlwyd y fferm 25 mlynedd yn ôl gan gymuned leol Castlehill, ardal sydd o fewn Ardal Cynhwysiant Cymdeithasol Gorllewin Swydd Dunbarton. Mae Knowetop wedi’i leoli yng nghanol cymuned ddirwasgedig gyda lefelau uchel o ddiweithdra a thlodi cysylltiedig, a chyfleusterau prin iawn i bobl ifanc, ac mae’n brosiect sy’n gweithredu fel dull i bobl ifanc gynyddu eu hunan-barch.
Ei bwrpas yw amddiffyn a chadw’r amgylchedd drwy addysgu’r cyhoedd am fanteision rheoli gwastraff tra’n darparu cyfrwng i bobl ifanc gymryd rhan ymarferol i wella eu hamgylchoedd. Drwy greu gweithgaredd i bobl ifanc, y nod yw eu rhwystro rhag mynd yn ddioddefwyr y diwylliant cyffuriau.
Mae gan y prosiect dros 118 o wirfoddolwyr ifanc rhwng 10 a 16 oed wedi’u cofrestru i weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol, gan ddarparu cyfleoedd hamdden yn llwyddiannus i blant ac oedolion o fewn y gymuned, fyddai fel arall yn troi at ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyswllt: Dorothy Whitehead
Ffoniwch: 01389 732 734
Gwefan: www.knowetopcommunityfarm.co.uk
Knowle West Media Centre
Mae Canolfan y Cyfryngau Knowle West yn defnyddio’r cyfryngau fel offeryn i gynnwys pobl yn y gwaith o adfywio eu cymunedau. Mae’r ganolfan yn creu cyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau sy’n hybu datblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn yr ardal leol.
Mae’r prosiect wedi’i leoli yn Knowle West, Bryste ac mae’n gweithio gyda phobl leol i archwilio’r llu o ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio’r cyfryngau er lles y gymuned. Maen nhw’n cymryd rhan mewn 16 o brosiectau gwahanol yn amrywio o weithio gyda disgyblion ysgolion uwchradd, cysylltu gyda ffotograffwyr proffesiynol, a gweithio ar brosiect celf digidol gyda phobl ifanc anabl.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu mewn ymateb i’r broblem gyffuriau gynyddol a nodwyd yn yr ardal yn ystod y 1990au. Bu farw nifer o bobl ifanc yn sgil gorddos ac ymatebodd bobl leol drwy greu prosiect a ddefnyddiodd dulliau arloesol i hyrwyddo iechyd da i bobl ifanc ac i bobl eraill yn y gymuned.
Mae’r grŵp yn defnyddio’r cyfryngau fel offeryn i gynnwys pobl leol yn y gwaith o adfywio eu hardal leol. Maen nhw’n rhedeg prosiectau fideo ac amlgyfrwng, yn rheoli Llythyr Newyddion Knowle West a’r wefan gymunedol, yn rhedeg prosiect celf digidol ac yn rheoli gwefan Mynd i’r Afael â Thrais yn y Cartref Knowle West.
Mae Canolfan y Cyfryngau Knowles West yn annog pobl i archwilio eu hochr greadigol, ond mae hefyd yn rhoi’r profiad iddynt o weithio gydag ymarferwyr proffesiynol. Mae’r cyfleoedd hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig i gael dyheadau llawer uwch, gan fynd â hwy i ardaloedd ac amgylchoedd newydd.
Cyswllt: Carolyn Hassan
Ffoniwch: 0117 903 0444
Gwefan: www.kwmc.co.uk
Learning Partnership Literacy Volunteers
Mae Gwirfoddolwyr Llythrennedd y Bartneriaeth Ddysgu’n gweithio i godi proffil Llythrennedd yn yr ysgol ac yn y gymuned, gan wneud dysgu’n hwyl a darllen yn fwynhad i blant. Drwy ddarparu modelau rôl cadarnhaol mae gan y plant rywun i ddarllen gyda hwy, sy’n helpu i wella eu hunan-barch a’u hyder.
Un agwedd o’r Elusen Partneriaethau Dysgu yw Gwirfoddolwyr Llythrennedd y Bartneriaeth Ddysgu. Cafodd ei sefydlu gan fod llawer o blant yn derbyn braidd ddim cefnogaeth i ddarllen gartref. Mae ysgol Gynradd Wykebeck, un o’r 15 ysgol sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, wedi’i leoli yn Ward Burmantofts, sy’n un o’r wardiau mwyaf difreintiedig ac amddifadus yn Leeds.
Mae’r grŵp yn helpu 100 o blant dros 12 mis. Mae pob gwirfoddolwr yn rhoi ei amser cinio i weithio gydag o leiaf 4 o blant un i un bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol. Mae’n rhaid i bob gwirfoddolwr, yn aml gyda phrofiad prin o weithio gyda phlant, weithio’n eithriadol o galed i ddatblygu amynedd, i ddangos ymroddiad a chysondeb, ond maen nhw wedi sefydlu perthnasoedd cyfeillgar, gofalgar a chefnogol, sy’n cael eu hadlewyrchu yn agwedd cyffredinol y plant tuag at ddysgu ac ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol.
Mae’r cynllun Gwirfoddolwyr Llythrennedd y Bartneriaeth Ddysgu hefyd wedi gwella sgiliau rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol ymhlith y plant ac mae wedi helpu i sefydlu cysylltiadau gyda’r gymuned ehangach.
Cyswllt: Gail Clark
Ffoniwch: 0113 380 6736
Lincoln and District REMAP Panel
Sefydlwyd Panel REMAP Lincoln a’r Ardal i gwrdd â gofynion offer pobl anabl yr oedd eu hanghenion yn rhy benodol i gael eu cwrdd gan ffynonellau masnachol.
Panel sy’n gangen o REMAP GB yw Lincoln a’r Ardal. Mae Swydd Lincoln yn sir fawr a gwledig ac mae llawer o gleientiaid wedi’u hynysu gan eu hanabledd. Mae panel REMAP yn gweithio tuag at gynorthwyo ac adfer pobl anabl, drwy hybu’r defnydd o dechnoleg nad yw’n cael ei gwrdd gan yr asiantaethau statudol, neu nad yw ar gael yn fasnachol.
Mae’r panel gwirfoddol yn cynhyrchu offer arbenigol unigol i gynyddu annibyniaeth pobl anabl ac i wella eu hintegreiddio yn y gymuned. Bydd y gwirfoddolwyr yn cwrdd i drafod atebion posibl i broblemau’r client, ac yna budd un neu ragor ohonynt yn mynd ati i gynhyrchu darn o offer i gwrdd ag anghenion eu client.
Mae cleientiaid sydd wedi cael eu helpu gan REMAP wedi gallu adfer eu hannibyniaeth, ailgychwyn ar weithgareddau y buont yn eu gwneud gynt a dysgu sgiliau newydd gan ddefnyddio’r offer a ddyluniwyd ar eu cyfer.
Cyswllt: John Bennett-Powell
Ffoniwch: 01522 523 656
Literacy Volunteers
Mae Gwirfoddolwyr Llythrennedd yn helpu plant yn Nottingham sy’n ei chael hi’n anodd darllen. Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’r plant i’w helpu i orchfygu eu problemau a darganfod fod darllen yn gallu bod yn hwyl.
Mudiad cwbl annibynnol yw’r Gwirfoddolwyr Llythrennedd, ond mae’n gweithio mewn cydweithrediad agos gydag ysgolion yn Ninas Nottingham ac yn sir Swydd Nottingham. Sefydlwyd y mudiad gan wirfoddolwyr mewn ymateb i’r lefel llythrennedd eithriadol isel yn Swydd Nottingham, yn enwedig yn Ninas Nottingham, ac mae’n cael ei reoli gan bwyllgor etholedig. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae angen cymorth ar rai plant i gadw i fyny gyda’r lleill, ond eto nid ydynt wedi cael diagnosis bod angen cymorth arbennig arnynt.
Mae hyd at 2500 o blant yn cael eu helpu bob blwyddyn gan y Gwirfoddolwyr Llythrennedd, gyda helpwyr penodol yn cael eu pennu ar gyfer ysgolion neilltuol.
Meddai Richard Wray, Rheolwr y Gwirfoddolwyr Llythrennedd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y wobr sy’n cydnabod degawd o wasanaeth, wedi’i roi’n rhad gan ein Gwirfoddolwyr, i blant ysgolion cynradd yn Swydd Nottingham.
Bydd gwerthfawrogiad fel hyn yn ein sbarduno i helpu hyd yn oed mwy o blant yn y dyfodol i ddarganfod y llawenydd a geir wrth ddarllen a’r cyflawniad personol y gall ei roi iddynt.”
Cyswllt: Richard Wray
Ffoniwch: 0115 915 0820
Gwefan: www.literacyvolunteers.org.uk
LNBP Braunstone ( London Narrow Boat Project)
Elusen blant heb fod am elw, sy’n cael ei redeg yn wirfoddol, yw LNBP Braunstone (Prosiect Badau Cul Llundain), sy’n darparu cyfleusterau preswyl ar fadau’r prosiect ei hun i alluogi plant, pobl ifanc a phobl llai abl i fwynhau’r profiad o hwylio ar gamlesi ar y dyfrffyrdd mewndirol.
Cafodd ei sefydlu ym 1981 gan grŵp o athrawon, gweithwyr ieuenctid a dilynwyr camlesi ym Mwrdeistref Lewisham, Llundain. Mae Prosiect LNBP yn galluogi pobl ifanc o lawer o gefndiroedd gwahanol ar draws y wlad, yn enwedig y rhai mewn mwyaf o angen a dan anfantais, i ddod i amgylchedd sy’n wahanol, yn enwedig i rai o ganol dinasoedd.
Mae’r prosiect LNBP yn gyfle i’w deithwyr ddysgu mwy am ran o’u treftadaeth a chael profiad o gefn gwlad. Maen nhw i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ar y bad, all eu helpu i ddatblygu eu sgiliau adeiladu tîm, arweinyddiaeth a brawdoliaeth. Dros y 24 mlynedd, mae prosiect LNBP wedi datblygu’i gyfleusterau, gyda rhyw 20,000 o bobl ifanc yn elwa o’r profiad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Meddai swyddog codi arian LNBR Braunstone, David Otway: "Mae’r Elusen ar ben ei digon gyda’r wobr. Gydag eleni’n ein gweld yn dathlu ein pen-blwydd yn 25, mae’n gydnabyddiaeth wych o’r gwaith caled a’r holl ymdrech sydd wedi ei roi dros y blynyddoedd gan griw ymroddedig o wirfoddolwyr. Bydd y gydnabyddiaeth werthfawr hon o gymorth mawr yn ein hymarferion hyrwyddo a marchnata, ac rydym eisoes yn cynllunio ymlaen am y 25 mlynedd nesaf.
“Un o’n cynlluniau nesaf ar gyfer ein 25ain flwyddyn yw darparu 25 taith ychwanegol i grwpiau o blant anghenus, wedi’u cyflwyno gan yr elusen genedlaethol, KidsOut, ac mae trefniadau wedi cael eu cwblhau erbyn hyn i’r rhain gael eu cynnal ym Mehefin a Gorffennaf eleni. Bydd y teithiau hyn i gyd yn cael eu cyllido drwy’n cronfa fwrsari.”
Cyswllt: David Otway
Ffoniwch: 02086997806
E-bost: dotwayuk@yahoo.co.uk
Gwefan: www.lnbp.co.uk
Ludlow Marches Skill-building Project
Menter i wella sgiliau ymarferol pobl ifanc yw Prosiect Gwella Sgiliau Ludlow Marches. Mae peirianneg a bwyd yn ffocws mawr, ond mae sgiliau megis gwneud dodrefn, tecstilau, gwaith metel a pheirianneg hefyd yn cael eu dysgu.
Gwirfoddolwyr lleol sefydlodd y grŵp wrth iddynt sylweddoli fod dolen ar goll yn addysg adran arbennig o bobl ifanc. Roedd angen iddynt gefnogi myfyrwyr llai academaidd eu bryd mewn sgiliau ymarferol, yn hytrach nag addysg ffurfiol. Mae’r bobl ifanc yn cael eu dysgu gan rwydwaith o 60 gwirfoddolwr sy’n dod o amrywiaeth eang o grefftau a sgiliau. Mae nifer o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser gwaith i fynd i mewn i ysgolion i gefnogi’r athrawon.
Mae’r grŵp wedi bod yn rhedeg am bedair blynedd ac mae rhai o’r hyfforddedigion wedi lansio gyrfa lawn erbyn hyn. Er enghraifft, mae myfyriwr lleol, enillydd cyntaf y Cogydd Ifanc, erbyn hyn yn rhedeg bwyty lleol adnabyddus gydag enw da yn genedlaethol. Mae eraill wedi mynd ymlaen i gymryd cyrsiau uwch mewn peirianneg, gwaith plymwr, a thrydan.
Meddai Graeme Perks, Prosiect Gwella Sgiliau Ludlow Marches: "Mae’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr gwledig yn manteisio yn sgil crefftwyr o bob math sy’n falch i drosglwyddo sgiliau gafodd eu trosglwyddo’n hapus iddynt hwy gan genhedlaeth o’u blaen. Y gobaith yw y bydd sgil ymarferol, gyda dealltwriaeth o fusnes, yn sicrhau y bydd traddodiad trefi marchnad yn gallu parhau – olyniaeth o waed newydd i barhau gyda busnesau teuluol traddodiadol neu i gychwyn rhai newydd.”
Cyswllt: Graeme Perks
Ffoniwch: 01584 856562/01584 878202
Symudol: 07977892097
Gwefan: www.craftsinludlow.co.uk
E-bost: gperks@meadowdesigns.co.uk
0-F | G-L | M-Z
|