arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English versionreturn home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office - Office for the Third Sector
Astudiaethau Achos  

2006

0-F | G-L | M-Z

48th Ipswich Brownies

Mae’r 48th Ipswich Brownies yn cynnig gweithgareddau heriol a llawn hwyl i ferched rhwng 7 a 10 mlwydd oed yn y gymuned leol.  Mae’r grŵp yn denu merched o amrywiaeth eang o grefyddau, hiliau, diwylliannau ac amgylchiadau.  Cynhelir y cyfarfodydd bob wythnos a gall y merched gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau, a threfnir teithiau hirach o bryd i’w gilydd.

Sefydlwyd y grŵp dros ugain mlynedd yn ôl er mwyn mynd i’r afael â diffyg llwyr o weithgareddau ar gyfer merched, a hwn oedd y cyntaf o’i fath yn yr ardal.  Dros y cyfnod hwn mae dros 150 o ferched wedi elwa, ac ar hyn o bryd mae 20 o ferched yn y grŵp.  Mae’r gwirfoddolwyr yn rhedeg ac yn goruchwylio’r grŵp, ac maen nhw’n gwbl ymroddedig i helpu’r merched gyrraedd eu potensial llawn.

Amcan y grŵp yw rhoi mwynhad a chyfle i ddatblygu i ferched ifanc, gan eu harfogi â sgiliau a phrofiadau hanfodol, gan esmwytho’r pontio i fod yn oedolyn.  Nid oes amheuaeth o’u cyflawniad, mae’r grŵp wedi darparu cyfleoedd i ferched ifanc a menywod mewn ardal dlawd na fyddent wedi eu cael fel arall.  Drwy weithio mewn cydweithrediad â’r ysgol leol i gyflawni cymaint â phosibl, mae’r effaith cyffredinol wedi bod yn hynod gadarnhaol mewn cymuned sy’n economaidd ddifreintiedig.
Nid yw’n syndod bod y grŵp yn brwydro i dalu am weithgareddau ac mae amgylchiadau ariannol llawer o’r rhieni’n gwneud codi arian yn anodd, os nad yn amhosibl.  Ar ben hyn, mae cludiant yn broblem, gan nad oes gan lawer o’r rhieni geir ac felly rhaid i’r grŵp dalu am ddulliau teithio eraill megis bysiau mini, all fod yn ddrud. Mae’r gwirfoddolwyr wedi ceisio goresgyn hyn drwy annog y merched i arbed arian eu hunain er mwyn lleihau’r baich ar y rhieni.
Cyswllt: Ann Boxall
Ffoniwch: 01473-728618

Accord Hospice

Mae Hosbis ACCORD yn elusen annibynnol sy’n rhoi gofal meddygol a nyrsio’n rhad ac am ddim i bobl yn Renfrewshire a rhannau o Ddwyrain Renfrewshire y mae eu salwch yn achosi poen corfforol a straen emosiynol iddynt a lle nad yw triniaethau gwella yn briodol bellach o bosib.

Mae gwirfoddolwyr Hosbis Accord yn helpu’r staff meddygol i ofalu am y cleifion ac yn darparu cefnogaeth i deuluoedd cleifion o fewn yr Hosbis ac yn y gymuned.

Mae’r gwirfoddolwyr yn allweddol i’r gwaith o reoli’r hosbis, gan ddarparu amrywiaeth eang o gymorth ymarferol i’r Hosbis ac i’r 600 o gleifion mae’n eu trin bob blwyddyn.  Mae cymorth gwirfoddolwyr yr Hosbis hefyd wedi bod yn hanfodol wrth helpu i godi dros £800,000 mewn un flwyddyn yn unig.
Cyswllt: Jennie Durward
Ffoniwch: 0141 581 2000
Gwefan: www.accord.org.uk
Ebost: office@accord.org.uk

Accuro

Mae Accuro’n darparu gofal seibiant a gwasanaethau eraill i blant ac oedolion ag anabledd ac i’w teuluoedd yng Ngorllewin Essex.  Mae’r holl wasanaethau sy’n cael eu cyflenwi wedi cael eu datblygu mewn ymateb i anghenion lleol canfyddedig ac mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflwyno’r gwasanaethau hyn.  Mae eu gwasanaethau clwb ieuenctid ac ymgyfeillio’n galluogi pobl ifanc ac oedolion i gael mynediad at eu cymuned tra’n cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr sydd yn eu tro’n elwa o’r berthynas hon drwy ddeall y problemau y mae pobl sydd ag anawsterau dysgu’n eu hwynebu.
Mae gan y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig nifer o fanteision i’r plant a’r bobl ifanc sy’n eu defnyddio ac i’w teuluoedd.  Er enghraifft, maen nhw’n rhoi cyfle i blant ac oedolion gydag anableddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddai ar gael iddynt fel arall.  I rieni, mae’n gwasanaethau’n darparu seibiant haeddiannol o’r straen ychwanegol sydd yn aml ynghlwm wrth ofalu am blentyn gydag anabledd.
Cyswllt: Jill Elms neu Arthur Steward ar 01371 878008      

Action for Stannington

Mae Action for Stannington yn gwella ansawdd bywyd i bobl Stannington drwy ddatblygu a darparu cynlluniau i gadw ac i warchod yr amgylchedd lleol.

Gan feithrin y syniad o hunan-gymorth yn y gymuned, mae Action for Stannington yn codi ymwybyddiaeth ac yn annog trigolion lleol i edrych ar ôl eu cymdogaeth drwy ffocysu ar y ffactor “teimlo’n dda” y mae’n ei greu ymysg aelodau’r gymuned.
Dyma rai o’r prosiectau:

  • Cyfleusterau ailgylchu helaeth
  • Pecynnau “Glanhau Sbwriel” yn cael eu dosbarthu i ddeiliaid tŷ brwdfrydig ac i bob siopwr
  • Rhedeg y Ganolfan Ailddefnyddio lle gall bobl ddod ag eitemau nad ydynt eu heisiau i’w hail-ddosbarthu i aelodau llai breintiedig o’r gymuned
  • Sicrhau fod biniau ailgylchu gwydr ym mhob tafarn
  • Ymweld ag ysgolion i esbonio pwysigrwydd lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
  • Codi sbwriel o’r llawr neu gyfrannu eitemau nad oes eu heisiau i deuluoedd difreintiedig (mae’r grŵp yn dosbarthu pethau megis offer magu plant, teganau a beiciau).

Mae pobl ifanc, drwy Dîm Troseddau Ieuenctid Sheffield, yn treulio Gorchmynion Gwneud Iawn Cymunedol gyda gwirfoddolwyr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymdogaeth lanach, mwy diogel a mwy gwyrdd.  Maen nhw’n mwynhau’r profiad gwaith ac mae rhai ohonynt hyd yn oed wedi parhau i wirfoddoli wedyn.

Mae Action for Stannington yn rhoi’r cyfle i’w holl drigolion lleol gyfrannu at well Stannington.  Maen nhw’n ystyried yr amgylchedd fel tir niwtral sy’n creu cydlyniad cymunedol - sydd i’w weld yn amrywiaeth eang a chefndir cymdeithasol aelodau’r grŵp.

Meddai Danny Piermattei, cadeirydd y grŵp: “Mae rhai’n methu deall pam ein bod yn cael gwell dêl yn Stannington nag yn unman arall, nes eu bod yn sylweddoli ein bod yn grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n dewis gwneud rhywbeth, yn hytrach nag eistedd a chwyno.  Yn ei dro, mae’n gwaith caled ni’n esgor ar ganlyniadau cynaliadwy a phendant”.
Cyswllt: Danny Piermattei, group chairman
Ffoniwch: 0114 2342559
Ffôn Symudol : 07986 359969
Ebost: actionforstannington@yahoo.co.uk

Backdoor Music Project

Cafodd y Backdoor Music Project ei sefydlu gan drigolion lleol mewn ymateb i’r diffyg darpariaeth cerddoriaeth a chelfyddydau i bobl ifanc ym Mwrdeistref Rochdale.  Mae’r Prosiect yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc sydd wedi eu heithrio’n gymdeithasol i gymryd rhan mewn digwyddiadau cerddorol a sesiynau hyfforddi, gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau cerddorol a’u hunan barch.
Ar hyn o bryd mae dros 300 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, sy’n cynnig gweithdai a chyngor ymarferol i artistiaid a bandiau sy’n ceisio canfod ffordd i fod yn gerddorion proffesiynol.  Mae’r Prosiect hefyd yn trefnu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i fandiau newydd, nad ydynt wedi cael eu cytundebu, i arddangos eu cerddoriaeth.  Mae’r digwyddiadau a’r gweithdai hyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc lleol ddatblygu eu sgiliau cerddorol a‘u hunan hyder, yn aml yn perfformio o flaen cynulleidfa am y tro cyntaf.  Mae’r prosiect hefyd yn cynnig darpariaeth hamdden i bobl ifanc lleol ar nosweithiau Gwener, yn sicrhau fod ganddynt rywle i fynd sy’n gynhyrchiol ac yn cadw eu sylw.

Mae pobl ifanc yn rhan annatod o’r prosiect, a gallant leisio eu barn drwy gyfrwng pwyllgor ymgynghorol.  Mae’r cyfrifoldeb hwn wedi bod yn gymorth i fynd i’r afael â llawer o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol yn yr ardal leol, sy’n cynnwys wardiau sy’n cael eu cydnabod eu bod ymysg y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU. Mae aelodau’r pwyllgor ymgynghorol yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r digwyddiadau a’r gweithdai, ac mae’n cael ei gefnogi gan rwydwaith o wirfoddolwyr ar bwyllgor rheoli’r prosiect sy’n sicrhau fod y prosiect ar gael i gymaint o bobl ifanc â phosibl.  Mae’r Prosiect hefyd yn gweithio gyda Chynghorwyr lleol a Chyngor y Drefgor i sicrhau lleoliad newydd yn y fwrdeistref.

Mae’r Prosiect yn cael ei ariannu’n llwyr gan roddion, ac mae gwirfoddolwyr yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Ieuenctid lleol a Connexions.

Meddai’r cydlynydd, Carol Moore: 'Doedden ni ddim yn gallu credu’r peth pan gawsom ni wybod ein bod wedi ennill y Wobr.  Mae pawb yn meddwl fod hyn yn anrhydedd ffantastig i brosiect cymunedol fel ni, sy’n cael ei redeg yn llwyr gan wirfoddolwyr.  Fe hoffem ddiolch i bawb sydd wedi’n cefnogi ni neu sydd wedi bod yn rhan o’r Backdoor Music Project, yn enwedig Nasser Afzal yn yr Uned Economaidd a Materion Cymunedol a’n henwebodd ni a Beate Mielemeier, Swyddfa Datblygu’r Celfyddydau Rochdale sydd wedi’n cefnogi ni ers ein dyddiau cynharaf.  Rydym yn edrych ymlaen at ein lleoliad newydd, a’r holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn yr un modd.  Bu’n llawer o waith caled, ond byddwn yn cyrraedd y nod'.
Cyswllt: Carol Moore
Ffoniwch: 07989 085034

Barnado’s Newcastle Pyramid Scheme (Cynllun Pyramid Barnado’s yn Newcastle)

Yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau, mae yna rai plant sydd angen cymorth ychwanegol i ymdopi gyda bywyd mewn ysgol brysur.  Mae dull Cynllun Pyramid Barnado’s yn Newcastle yn darparu cefnogaeth i blant sy’n ddihyder, rhai y mae’n hawdd anghofio am eu hanghenion.

Mae Cynllun Pyramid Barnado’s yn Newcastle yn darparu rhestr wirio emosiynol syml i athrawon plant blynyddoedd 3 a 4, er mwyn canfod plant allai elwa yn sgil cymorth ychwanegol.  Bydd grŵp ehangach o bobl wedyn yn ystyried anghenion bob plentyn er mwyn sicrhau fod y rhai allai elwa yn sgil Cynllun Pyramid Barnado’s yn Newcastle yn derbyn y cymorth priodol.
Mae’r Clybiau Pyramid wedi eu cynllunio’n arbennig i helpu plant gydag anghenion emosiynol dyfnach i gyrraedd eu potensial yn yr ysgol ac mewn bywyd drwy gynyddu eu sgiliau a chodi eu hyder.  Mae gweithgareddau’r clybiau’n cynnwys celf a chrefft, coginio a gemau, sydd wedi eu cynllunio i annog plant i gael hwyl ac i gynyddu eu hyder a’u hunan-barch.  Mae’r gweithgareddau hefyd wedi eu cynllunio i’w helpu i wneud ffrindiau, i siarad ac i wrando ar ei gilydd ac i gael eu syniadau eu hunain am beth fydden nhw’n hoffi ei wneud.

Mae gwirfoddolwyr Barnado yn cynllunio’r gweithgareddau creadigol ar gyfer y plant, yn arwain gweithgareddau corfforol, yn trefnu teithiau i’r plant ac yn gweithio gyda hwy i gynllunio drama y bydd rhieni ac athrawon yn cael gwahoddiad i’w weld.  Mae llawer o’r gwirfoddolwyr yn rhedeg mwy nag un clwb ac mae ganddynt eu ‘hoff’ ysgol lle maen nhw’n gwirfoddoli flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gall problemau cymdeithasol ac emosiynol cynnar gyfrannu tuag at siawns plant o ddatblygu anawsterau mwy difrifol yn ddiweddarach.  Mae ymchwil annibynnol wedi dangos fod llawer o blant sy’n mynychu Clybiau Pyramid yn dod yn fwy allblyg a hyderus, gan eu galluogi i wneud ffrindiau ac i wella yn y dosbarth.

Nid yw bob plentyn yn teimlo’n hyderus, yn hapus ac yn gallu ymdopi bob amser, ond gall Cynllun Pyramid Barnado’s yn Newcastle roi’r cymorth ychwanegol hwnnw sydd ei angen ar y plant hyn.
Cyswllt: Tracy Bell
Ffoniwch: 0191 2120237

Beverley Community Care Association

Mae’r Beverley Community Lift, a sefydlwyd 35 mlynedd yn ôl, yn darparu gwasanaeth hanfodol i’w gymuned ac mae’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan y gymuned ei hun. I’r rhan fwyaf ohonom, nid yw mynd i apwyntiadau’r meddyg, y deintydd neu’r ysbyty yn achosi llawer iawn o broblemau, ond i’r henoed a’r rhai sydd â phroblemau symudedd, y mae eu dibyniaeth ar gludiant cyhoeddus yn gosod her wirioneddol i’w bywydau, mae ymweliadau o’r fath yn llawn llesteiriau.

Prif ffocws Beverley Community Lift yw galluogi pobl hŷn ac anabl i barhau’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac i roi iddynt y cysylltiad cymdeithasol a’r llygad i’w gwylio fyddai ar goll fel arall.  Pe na byddai Beverley Community Lift yn bodoli, byddai’n rhaid gweithredu’r gwasanaeth allan o’r pwrs cyhoeddus.

Mae’r elusen yn gweithio yn Beverley a’r pentrefi cyfagos, ac mae’n ymdrechu i ddarparu cludiant personol i unrhyw un sy’n wynebu taith hanfodol, ac sydd â chyflwr sy’n eu rhwystro rhag teithio ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.  Ochr arall y geiniog yw ei fod yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac o werth o hyd i wirfoddolwyr sydd wedi ymddeol, ar y cyfan, ac yn rhoi cyfle gwerthfawr iddynt gymdeithasu ag eraill.

Ffocws presennol ymdrechion Beverley Community Lift i godi arian i brynu bws newydd yn lle’r bws mini glas, a elwir yn annwyl yn Bluebell, sy’n methu’n gyflym ar ôl blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon.  Gyda tharged o £30,000 i brynu bws newydd all gymryd cadeiriau olwyn, mae pob ceiniog yn cyfrif ac mae’r swm yn dod yn haws ei gyrraedd diolch i garedigrwydd digwyddiadau codi arian yn ystod y flwyddyn - yn cynnwys cystadleuaeth ‘llusgo bws’!

Meddai Jim Whitfield, cadeirydd Beverley Community Lift: "Rydym yn falch ac yn ei theimlo’n anrhydedd i dderbyn y gydnabyddiaeth hon i waith diflino ein gwirfoddolwyr a’n staff. Eu hymdrechion hwy sydd wedi gwneud Beverley Community Lift yn gyfraniad pwysig i gryfder cymunedol ein tref.”
Cyswllt: Trish Altoft
Ffoniwch: 01482 868082
Gwefan: www.bclift.karoo.net

The Bexhill Caring Community

Mae’r Bexhill Caring Community (TBCC ) yn dathlu ei 41ain flwyddyn o wasanaeth.  Mae’n gweithio’n agos gyda mudiadau’n lleol i helpu gwella lles y rhai mewn angen o fewn cymuned Bexhill.  Nid yw’r elusen yn derbyn unrhyw gymorth gan lywodraeth ganolog na lleol ac mae’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau, cymynroddion a chodi arian.

Cafodd TBCC ei gychwyn ym 1965 drwy weledigaeth un dyn, y diweddar Ganon Michael Townroe, oedd ar y pryd yn Rheithor Eglwys San Pedr, oedd wedi dod yn ymwybodol bod llawer o bobl yn Bexhill yn gaeth i’w cartrefi, yn unig neu’n anabl.  Galwodd ynghyd grŵp o wirfoddolwyr oedd, fel ef ei hun, eisiau helpu gydag anghenion y bobl hyn.

Ers hynny mae miloedd ar filoedd o drigolion Bexhill wedi derbyn cefnogaeth yr oedd angen mawr amdano gan TBCC; gwasanaethau sy’n dibynnu’n bennaf ar ei 144 gwirfoddolwr, yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Deialu-am-Reid i bobl sy’n rhy anabl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus
  • Gwasanaeth Car y Gymuned
  • Llyfrgell i’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi
  • Gwasanaeth ymweld a siopa i’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi
  • Cyngor ar fudd-daliadau lles
  • Dosbarthu’r anrhegion Nadolig a Diolchgarwch sy’n dod o ysgolion ac eglwysi lleol, sy’n gyswllt gwerthfawr gydag aelodau iau’r gymuned.

Fel mudiad unigryw, mae TBCC yn chwarae rhan gwbl hanfodol o fewn cymuned Bexhill.  Byddai llawer o’r trigolion yn gorfod mynd i ysbyty tymor hir neu ofal preswyl oni bai am wirfoddolwyr TBCC.  Eu cefnogaeth hwy sy’n eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain.

I nifer o bobl yn Bexhill sy’n gaeth i’w cartrefi, mae’r Caring Community yn achubydd corfforol a seicolegol.  Mae’n darparu cyswllt â phobl i bobl fyddai fel arall prin yn ei gael o gwbl.
Meddai Ysgrifennydd Cwmni TBCC, y Cynghorydd Keith Standring: “Dros y 41 mlynedd diwethaf bu pobl ddirifedi fu’n helpu gwasanaeth TBCC i gymuned Bexhill-on-Sea.  Dim ond un person sydd wedi gwasanaethu ar ei gorff gweithredol ers y cychwyn cyntaf, a’n Cadeirydd dros yr 21 mlynedd diwethaf yw honno, Miss Myrtle Bagnall."
Meddai Miss Myrtle Bagnall, "Roeddem wrth ein bodd pan gyhoeddodd Maer y Dref newydd, y Cynghorydd Eric Armstrong, rai dyddiau’n ôl, y byddai TBCC yn un o ddwy elusen y maer yn ystod 2006-7.  Ac yn awr mae TBCC wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, sef yr anrhydedd uchaf y gall unrhyw fudiad gwirfoddol ei dderbyn.  Ar gychwyn yr elusen, fyddai’r un ohonom wedi breuddwydio y byddai’n bodoli ac yn datblygu am 41 mlynedd o wasanaeth di-dor.  Rydym yn eithriadol falch ac yn freintiedig i dderbyn Gwobr y Frenhines mewn cydnabyddiaeth o waith diflino pawb sydd wedi bod yn rhan o’r elusen, yn enwedig y gwirfoddolwyr yr ydym yn dibynnu’n llwyr arnynt.  Edrychwn ymlaen yn awr at y cyfnod nesaf o ddatblygu pellach wedi’i gryfhau gan yr anrhydedd hwn."
Cyswllt: Cynghorydd Keith Standring
Ffoniwch: Adref - 01424 736880
Ffôn Symudol - 07811379691
Ebost: nirvana@gn.apc.org

Body Positive Dorset

Mudiad yw Body Positive Dorset sy’n cynnig cyngor emosiynol ac ymarferol.  Mae’n cynnig cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda HIV ac AIDS yn ardal Dorset neu sydd wedi eu heffeithio ganddynt.  Mae’r mudiad yn helpu dros 350 o bobl, gan ddarparu lle i’r rhai sydd â HIV i ymlacio, i gymdeithasu ac i geisio cyngor.
Sefydlwyd y Grŵp ym 1986 gan grŵp o bobl leol yr oedd eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan HIV ac AIDS ac mewn ymateb i’r ddealltwriaeth neu’r gefnogaeth isel iawn oedd ar gael iddynt yn yr ardal leol.  Roeddent eisiau creu amgylchedd fyddai’n cynnig cefnogaeth gadarnhaol ac addysg i’r rhai oedd wedi eu heffeithio gan y clefyd, waeth beth fyddai eu rhyw, eu tueddfryd rhywiol, eu hoed, eu tarddiad ethnig neu eu crefydd.
Dros yr 20 mlynedd ers hynny, mae’r mudiad wedi mynd o nerth i nerth, yn sicrhau cyllid ar gyfer canolfan gefnogi benodol, llinell gymorth 24 awr ac amrywiaeth o therapïau holistig ac amgen i helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio.  Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig gwasanaeth cynghori, grwpiau cefnogi cymheiriaid, clinigau cynghori, nosweithiau clwb rheolaidd, barbiciws ac ardal lolfa i bobl gwrdd ac i gymdeithasu.

Mae defnyddwyr y ganolfan yn sylweddoli fod y ganolfan yn cynnig hafan ddiogel, sy’n groesawgar ac yn rhydd rhag wahaniaethu, cam-drin na beirniadaeth mewn cyfnod anodd iawn yn eu bywydau.  Mae Body Positive Dorset ei hun wedi bod yn destun gwahaniaethu o’r fath, yn wynebu gwrthwynebiad lleol wrth wneud cais am gyllid i’r ganolfan gefnogi.  Mae’n glod i’r 32 gwirfoddolwr fod gwaith Body Positive wedi ennill parch a chydnabyddiaeth y gymuned leol erbyn hyn.  Y gwirfoddolwyr hyn sydd nid yn unig yn staffio ac yn cynnal y ganolfan 5 prynhawn yr wythnos a’r llinell gymorth 24 awr y dydd, ond sydd hefyd yn codi arian, gwneud gwaith cysylltiadau cyhoeddus a gwaith addysgiadol allanol i ysgolion ac ysbytai lleol.  Mae gan y mudiad hefyd gysylltiad agos iawn a’r clinig GUM lleol, sy’n annog ei gleifion i gysylltu â Body Positive Dorset am gymorth a chyngor ar ôl cael diagnosis.

Meddai’r cyfarwyddwr, Barbara Heffernan: 'Mae pawb yn y ganolfan wrth eu boddau eu bod wedi derbyn y Wobr.  Mae’r Wobr yn cydnabod gwaith caled y gwirfoddolwyr a’r staff cefnogi sydd, neu sydd wedi bod, ynghlwm wrth Body Positive Dorset dros y blynyddoedd, ac mae’n briodol dros ben gan fod y mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed.  Gobeithiwn y bydd y Wobr hefyd yn helpu i amlygu’r angen am ganolfannau megis Body Positive Dorset, ac yn sicrhau bod pobl yn sylweddoli fod HIV ac AIDS yn dal i fod yn bynciau o fewn ein cymdeithas na ellir eu hanwybyddu’.
Cyswllt: Barbara Heffernan
Ffoniwch: 01202 297386
Gwefan: www.bodypositivedorset.org

Braunstone Stars and Angels

Mae Braunstone Stars and Angels yn darparu gweithgaredd gwirfoddol yn y gymuned i blant o bedair oed i fyny i ddysgu canu a pherfformio ar y llwyfan.  Mae’r grŵp hefyd yn rhoi cyfle i’r plant berfformio mewn cynyrchiadau, sy’n cael eu llwyfannu i godi arian i’r ysbyty lleol, Ymchwil Canser, Sefydliad Frenhinol y Galon a’r RSPCA.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant llais a pherfformio, mae’n rhoi rhywle i blant lleol fynd a rhywbeth i weithio tuag ato.  Mae perfformio mewn cynyrchiadau o flaen cynulleidfa fawr yn helpu gwella hyder llawer o’i aelodau, sgiliau all eu helpu mewn agweddau eraill o’u bywydau.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r grŵp wedi codi arian er lles llawer o bobl sy’n llau ffodus na nhw.

Cyswllt: Maria Sawbridge
Ffoniwch: 0116 2299727

The Calder Valley Search and Rescue Team

Mae Tîm Chwilio ac Achub Calder Valley (CVSRT) yn gweithredu fel tîm achub gwirfoddol, dan ganllawiau’r sefydliad cenedlaethol – Y Cyngor Achub ar Fynyddoedd, ac mewn cydweithrediad a than reolaeth Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.

Sefydlwyd CVSRT ym 1966 i ddarparu cyfleusterau chwilio, achub ac adfer i gymunedau Calderdale, ardal o dros 140 milltir sgwâr, yn cynnwys ardaloedd mawr o gefn gwlad anghysbell a garw.

Mae’r tîm yn fedrus wrth achub a symud anafedigion, gan ddarparu lefel uchel o gymorth meddygol a chymorth cyntaf.  Mae’r tîm hefyd yn gwneud gwaith achub â rhaffau ar glogwyni a thir serth ac mae’n darparu system gyfathrebu mewn ardaloedd anghysbell.  Hyd yn hyn eleni, mae’r tîm wedi ateb 23 galwad, yn cynnwys symud anafedigion o leoliadau anghysbell sydd wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am achub bywyd.

Fel mudiad gwirfoddol, mae’r tîm ar y cyfan yn cyllido ei hun ac yn dibynnu ar gyfraniadau elusennol gan y cyhoedd.  Yn ogystal â’u hyfforddiant a galwadau i ddigwyddiadau byw, maen nhw’n canfod amser i godi arian nid yn unig drostynt eu hunain ond hefyd er lles elusennau lleol a chenedlaethol eraill, yn cynnwys Nyrsys Macmillan, Ymchwil Canser ac Elusen Canser Plant y Candlelighters.  Maen nhw hefyd yn ymroddedig i addysgu pobl ifanc a grwpiau lleol ac i godi ymwybyddiaeth o faterion yn cynnwys diogelwch yn yr awyr agored, cymorth cyntaf, harddwch naturiol yr ardal leol a phwysigrwydd cadwraeth.

Fel modd o ad-dalu’r cyhoedd am eu cyfraniadau caredig, mae’r tîm yn ymwneud llawer â Phrosiectau Cymunedol yn Nyffryn Calder, megis glanhau afonydd, marsialu’r goelcerth flynyddol yn Hebden Bridge, dyletswyddau maes parcio mewn digwyddiadau mawr, yn ogystal â dyletswyddau stiwardio mewn digwyddiadau athletig a beicio amrywiol.

Cyswllt: Michael Smith
Ffoniwch: 01422 373901
Symudol: 07770636064
E-bost: micksandra@lineone.net
Gwefan: www.cvsrt.co.uk

Cancer Link Aberdeen & North (CLAN)

Cafodd CLAN ei sefydlu ddau ddeg dau o flynyddoedd yn ôl gyda’r bwriad o ddarparu cefnogaeth emosiynol i bawb sy’n cael ei effeithio gan ganser yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban, Orkney a Shetland.  Drwy ddargyfeirio oddi wrth driniaethau mwy confensiynol, mae CLAN yn unigryw yn ei bwyslais ar drin yr unigolyn yn holistig, gan nodi a mynd i’r afael ag achosion gwaelodol.

Mae’r grŵp yn anelu at ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth, addysg a therapïau yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ganser yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (yn benodol y rhai sy’n sâl, y rhai mewn profedigaeth a gofalwyr).  Mae llu ymroddedig CLAN, gyda dros 130 o wirfoddolwyr, yn cynnig lle i leihau straen a rhannu ofnau, yn ogystal â phethau i dynnu sylw, y mae mawr angen amdanynt, megis dosbarthiadau, seminarau, celf a chrefft.

Drwy gyfrwng y mentrau hyn mae CLAN yn ffynhonnell gobaith ac anogaeth lle efallai na fyddai unman arall i droi.  I ddeall yn union beth mae CLAN wedi’i gyflawni, does dim ond rhaid siarad gyda chleient neu berthynas sydd wedi elwa yn sgil amrywiaeth eang o wasanaethau.  Yn wir, mae’r mudiad yn derbyn llu o adborth canmoliaethus iawn, ac mae’n llwyddo i ddenu’r cyfraniadau angenrheidiol i’w alluogi i barhau gyda’r gwaith da.  Ar ben hyn, dros y 12 mis diwethaf bu’n agos i 8,000 o ymweliadau i’r ganolfan, ac mae gwasanaethau dros y ffôn ac e-bost wedi galluogi’r grŵp i helpu 272 o bobl eraill.  Wedi dweud hyn, nid yw CLAN yn dibynnu ar gyflawniadau’r gorffennol, ac mae bob amser yn ymdrechu i ganfod dulliau arloesol o wella’r gwasanaeth.

Yn anffodus, mae CLAN wedi dioddef problemau cyllido yn ystod y blynyddoedd diweddar oherwydd galwadau cynyddol sy’n rhoi straen ar adnoddau’r elusen.  Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r elusen a maint ei waith, mae CLAN ar hyn o bryd yn edrych ar godi ei broffil drwy amrywiaeth o strategaethau hyrwyddo ar hyd a lled y rhanbarth.
 
Cyswllt: Mrs. Debbie Thompson
Ffoniwch: 01224-647000
Gwefan: www.clanhouse.org

Canterbury and District Recorder

Papur newydd llafar yw’r Canterbury and District Recorder ar gyfer y rhai â nam ar y golwg ag anabledd gyda phrint.  Byddant yn anfon casét bob wythnos yn rhad ac am ddim, gyda’r holl newyddion lleol arno.

Mudiad annibynnol yw’r Canterbury and District Recorder gafodd ei sefydlu bron 30 o flynyddoedd yn ôl gan Dennis Eldridge, oedd yn ddall ac a ddaeth yn ymwybodol o anghenion pobl eraill ar ôl i’w wraig recordio’r newyddion lleol iddo.  Doedd dim byd ar gael ar y pryd, felly daeth yn weledigaeth iddo ddarparu gwasanaeth newyddion lleol wedi’i recordio ar gyfer pobl eraill.

Mae’r grŵp yn cynnwys gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n dod at ei gilydd i ddarllen a recordio gwahanol rannau o’r Gazette (Rhifyn Canterbury and District). Mae’r tapiau’n cadw pobl mewn cysylltiad â gwybodaeth a newyddion lleol, yn cynnwys manylion ffyrdd ar gau, trywyddau bysiau ac amserau trenau.

Wynebodd Canterbury and District Recorder rwystr anodd y llynedd pan fu farw’r sylfaenydd, Denis Eldridge, yn drasig ar ôl colli’i gydbwysedd a syrthio i lawr grisiau, yn drist iawn ychydig cyn yr oedd i dderbyn MBE (Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig).  Fodd bynnag, cariodd yr helpwyr ymlaen â’r gwaith da fel teyrnged iddo ac maen nhw’n benderfynol i symud y mudiad ymlaen drwy barhau i ddarparu gwasanaeth arbennig ar gyfer y bobl ddall ac anabl yn y gymuned er cof amdano.

Meddai Jane Handley, ysgrifenyddes Canterbury District Recorder: “Dechreuodd fy rhan bersonol i yn y gwaith pan gafodd fy nhad strôc ddifrifol oedd yn golygu na allai drafod papur newydd, a’i fod yn colli cael gwybod am ddigwyddiadau lleol.  Rydw i’n gweithio i’r Kentish Gazette ac fe ddes i adnabod gwirfoddolwyr o’r Canterbury and District Recorder oedd yn dod i gasglu’r papur newydd bob wythnos.  Roedd angen ysgrifenyddes arnyn nhw a rhywsut neu’i gilydd fe ffeindiais fy hun yn gwneud y gwaith.  Pan ddaeth cyfnod a ninnau heb stiwdio, daeth Grŵp y Kent Messenger i’r adwy a darparu stiwdio wedi ei adeiladu at y pwrpas ar ein cyfer yn Canterbury.”

Cyswllt: Jane Handley
Ffoniwch: 01227 713 632
Gwaith: 01227 768 181
E-bost: luboo@fsmail.net

The Chalke Valley Link Scheme

Mae Cynllun Cyswllt Chalke Valley yn gweithredu yn Chalke Valley a’r pentrefi cyfagos, gan ddarparu gofal, cefnogaeth a chludiant i bobl hŷn.  Mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i sicrhau bod trigolion hŷn lleol yn gallu parhau i fyw’n annibynnol drwy eu cludo at apwyntiadau meddygol, i’r swyddfa post a’u helpu i gario eu siopa.

Sefydlwyd y cynllun mewn ymateb i’r dirywiad mewn gwasanaethau lleol yn yr ardal, wrth i siopau pentref, swyddfeydd post a meddygfeydd gau, gan olygu bod trigolion hŷn yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i gyrraedd gwasanaethau allweddol. Datblygodd y gwirfoddolwyr y cynllun i helpu’r bobl hŷn yma i gyrraedd y gwasanaethau, gan ymateb i dros 650 o alwadau mewn un flwyddyn yn unig.

Yn ystod y ddegawd y mae’r cynllun wedi bod yn gweithredu, mae’r gwasanaeth wedi helpu dod â phobl leol at ei gilydd ac wedi galluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi’n hwy nag a fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.  Mae’r cynllun hefyd yn dod â’r pentrefi at ei gilydd drwy ei weithgareddau codi arian, megis cyngerdd diweddar y bu pentrefwyr o bob oed yn ei fynychu a’i gefnogi.  Mae gallu’r cynllun i feithrin yr ymdeimlad cymunedol cryf hwn hefyd wedi annog pobl newydd i helpu gyda’r cynllun, gydag 88 o wirfoddolwyr yn rhan ohono erbyn hyn.

Cyswllt: Tristram Sykes
Ffoniwch: 01722 780443

Children with Special Needs Foundation

Mae’r Sefydliad Plant ag Anghenion Arbennig yn cefnogi plant a’u rhieni drwy gynnig offer, gwyliau, hyfforddiant a gofal hanfodol i blant ag anghenion arbennig.  Gan weithio gyda gweithwyr cymdeithasol, meddygol a phenaethiaid ysgolion ar draws De Ddwyrain Lloegr, mae’r Sefydliad wedi helpu codi arian i roi hunan hyder ac annibyniaeth i blant ag anghenion arbennig drwy ymateb i’w hanghenion.

Gwelodd Maer a Maeres Surrey Heath, Gordon ac Ann Parris, bod angen i gefnogi plant ag anghenion arbennig yn y gymuned leol gan ffurfio’r sefydliad ym 1995.  Roeddent yn gweld bod angen elusen ar rieni plant ag anghenion arbennig fyddai nid yn unig yn gallu cynnig cefnogaeth ariannol iddynt, ond fyddai hefyd yn helpu i’w hintegreiddio hwy a’u plant yn y gymuned leol.  Aethant ati i helpu darparu cyllid ar gyfer yr offer arbenigol a’r cyfleon hamdden yr oedd cymaint o’u heisiau ar y teuluoedd.

Yn y 10 mlynedd ers ei gychwyn, mae’r Sefydliad wedi darparu gwerth miloedd o bunnoedd o offer ar gyfer unigolion, ysgolion, grwpiau anghenion arbennig, ysbytai a hosbisau plant.  Mae’r Sefydliad wedi darparu offer yn amrywio o fyrddau snwcer i byllau nofio, ac mae wedi codi arian i sicrhau fod plant ag anghenion arbennig yn cael mynediad at yr offer y mae cymaint o’i angen arnynt.  Mae aelodau’r pwyllgor yn gwneud ymdrech arbennig i ymweld â rhieni i ganfod gofynion eu plant ac i drafod y problemau sy’n wynebu eu plant a’r opsiynau sydd ar gael iddynt.

Yn ogystal â darparu offer, mae’r Sefydliad hefyd yn talu am deithiau dydd a thripiau ar gyfer teuluoedd.  Y llynedd mynychodd dros 1,500 o rieni a’u plant bantomeim diolch i’r Sefydliad gyda dros 600 o blant  yn cael hwyl yn y ffair ym Mhark Frimley Lodge.  Mae’r Sefydliad hefyd yn codi arian ac yn trefnu gwyliau yn y DU, yn Ewrop ac yn yr UDA, gan gynnig seibiant a chyfle i ymlacio y mae mawr ei angen.  Mae’r Sefydliad hefyd yn berchen ar ddau gartref symudol 8 gwely yn Pagham, Bognor Regis, lle gall plant a’u rhieni dreulio amser a chael hwyl.

Meddai’r Sylfaenwyr Gordon ac Ann Parris: ‘Rydyn ni’n credu ei bod hi’n wych fod y Sefydliad wedi derbyn y wobr yma.  Mae’n ymddiriedolwyr, ein noddwyr ac aelodau’r pwyllgor yn ei theimlo hi’n fraint i fod wedi cael ein hystyried am y wobr hyd yn oed, felly mae ennill yn arbennig iawn i ni.  Hoffem ddiolch hefyd i’r busnesau a’r unigolion lleol sydd wedi cefnogi’r Sefydliad.  Hebddyn nhw, ni fyddai elusen wedi bodoli yn y lle cyntaf’.

Cyswllt: Gordon Parris
Ffoniwch: 07776 256802 / 01276 856216
Gwefan: www.childrenwithspecialneeds.co.uk/

Cricket for people with Disability (CFPD)

Cafodd Criced i bobl ag Anabledd (CFPD) ei sefydlu, ac mae’n cael ei redeg, gan yr efeilliaid Fred a Dick Wildgoose i gwrdd ag anghenion pobl o bob oed a phob gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.  Am dros bum mlynedd, maen nhw wedi trefnu Gemau i’r Anabl Rotary yn yr ardal, sydd erbyn hyn yn denu dros 250 o bobl o bob rhan o’r wlad i gymryd rhan.  Mae llawer o’r rhai sy’n cystadlu yn y gemau hefyd am gymryd rhan yn y sesiynau criced diwrnod cyfan sy’n cael eu trefnu gan y brodyr Wildgoose.  Mae’r efeilliaid yn codi arian i’r CFPD yn ddiflino, gan drefnu digwyddiadau arbennig a helpu i bacio bagiau wrth y til mewn archfarchnadoedd yn gyfnewid am gyfraniadau.

Menter leol oedd hon yn wreiddiol, ond mae gweithgareddau’r grŵp wedi ysbrydoli gwirfoddolwyr eraill yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i gefnogi nodau ac amcanion y CFPD.  Mae sesiynau a gynhaliwyd gan y brodyr yn y ganolfan hamdden leol a’r clwb criced wedi galluogi pobl ag anableddau i chwarae criced yn Lords a hyd yn oed i gymryd rhan mewn taith yn India, gyda ‘gemau prawf’ rhwng chwaraewyr anabl y ddwy wlad.

Mewn cydnabyddiaeth o waith CFPD, derbyniodd Dick Wildgoose Gymrodoriaeth Paul Harris gan Glwb Rotary Croesoswallt, sef yr anrhydedd pennaf y gall Clwb ei roi.   Mae’r brodyr hefyd wedi cynhyrchu llyfr, Cricket the Wildgoose Way - Management Strategy for Mixed Disability Cricket, i annog rhagor o gyfranogiad gan bobl anabl mewn criced.  Mae’r llyfr ar gael am ddim i grwpiau a thimoedd sydd â diddordeb.  Mae’n rhoi canllaw i sefydlu a rhedeg clwb criced i’r anabl.

Meddai David Crowhurst, Ficer Croesoswallt:
“Mae Fred a Dick yn cyfrannu oriau maith yn gweinyddu ac yn y gwaith ymarferol o redeg y gemau hyn, yn ogystal ag arwain y codi arian angenrheidiol.  Y wobr yw gweld pobl anabl (dros ben weithiau) yn cymryd rhan yn llawn mewn criced a gweithgareddau chwaraeon eraill, gan roi’r profiad o gyflawni iddynt, yn unigol ac mewn timoedd.  Rwy’n falch i gefnogi a chymeradwyo’r enwebiad hwn.”

Cyswllt: Fred Wildgoose
Ffoniwch: 01691 661 341
E-bost: fred@wildgoose.org

Crowborough Vale Drama Group

Ers 1955, mae Grŵp Drama Crowborough Vale wedi bod yn cefnogi’r gymuned leol drwy godi arian i brynu offer i achosion da ac elusennau.  Bob blwyddyn bydd y Grŵp yn llwyfannu ‘Rifíw Blynyddol’ sy’n cael ei ariannu a’i gynhyrchu gan y grŵp.  Mae gwirfoddolwyr yn ysgrifennu sgriptiau, yn gwneud gwisgoedd ac yn dylunio ac adeiladu setiau, ac mae’r Rifíw wedi dod yn rhan ganolog o galendr y gymuned, gyda’r tocynnau’n gwerthu allan bob blwyddyn.

Drwy gydol y flwyddyn, mae arian yn cael ei godi i ariannu gweithgareddau’r Grŵp drwy ffeiriau sborion, barbiciw yn yr haf a Dawns Sgubor Calan Gaeaf. Yn ogystal â chodi arian i lwyfannu’r sioe, mae gwirfoddolwyr hefyd yn darparu adloniant am ddim i Ysbyty Goffa Crowsborough a Chanolfan Gofal Dydd Hookstead; gan gynnwys pobl ifanc yn yr ardal leol sy’n aml yn cymryd rhan.  Mae’r Grŵp hefyd wedi cael gwahoddiad i berfformio yng Ngharchar Dartmoor ac ar BBC Radio Sussex.  Mae gwirfoddolwyr hefyd yn ymddangos bob blwyddyn yng Ngharnifal Crowborough – y llynedd roedden nhw wedi gwisgo fel y Calendar Girls!

Mae’r Grŵp yn cyfrannu’r holl elw o’r Rifíw i achosion da lleol, a’r caredigrwydd hwn sydd wedi ennyn edmygedd a pharch y trigolion lleol.  Mae llwyddiant y Grŵp wedi golygu eu bod, am dros 20 mlynedd, wedi gallu rhoi grantiau i achosion lleol yn cynnwys Clwb Strôc Crowborough, Ambiwlans Sant Ioan, Canolfan Gofal Dydd Crowborough a’r Grŵp Ffibrosis Cystig.

Meddai Cydlynydd y Grŵp, Pauline Lavington: 'Rydyn ni ar ben ein digon ar ôl ennill y wobr hon. Redden ni’n ei theimlo’n anrhydedd i gael ein henwebu hyd yn oed, felly mae ennill yn annisgwyl ac mae pawb yn y Grŵp wrth eu bodd.’

Cyswllt: Pauline Lavington
Ffoniwch: 01892 663436

Cuckmere Community Bus

Mae gwasanaeth Bws Cymunedol Cuckmere yn cynnig amwynder lleol effeithiol, dibynadwy, wedi’i brisio’n gystadleuol i drigolion lleol nad oes ganddynt fynediad at gar ynghyd â nifer o ymwelwyr i’r ardal.  Mae’r bysiau wedi dod yn nodwedd o fywyd lleol, gan ddarparu, pan fo angen, gwasanaeth arbennig i gefnogi digwyddiadau lleol lle nad yw defnyddio trafnidiaeth breifat yn cael ei annog.

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn rhedeg ers 1975 ac mae’n cael cefnogaeth gan y Cyngor Sir.  Mae’r grŵp sy’n ei redeg, yn wirfoddolwyr gwrywaidd a benywaidd, wedi bod yn llewyrchus dros yn agos at 30 mlynedd gan ei droi’n fenter gymdeithasol dan reolaeth leol yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i’r 15 cymuned wledig.  Mae’r bysiau wedi ennill enw da am fod yn wasanaeth cyfeillgar ac effeithiol, gan guro hyd yn oed weithredwyr bysiau proffesiynol i ennill y wobr ‘Bysiau am Bleser’ yn seremoni wobrwyo’r Diwydiant Bysiau yn 2000.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu’n gyfan gwbl gan y gymuned leol er budd y gymuned honno.  Mae gan aelodau Bws Cymunedol Cuckmere awydd dwfn i gynnig amwynder y mae angen mawr amdano a gwasanaeth gwerthfawr i drigolion ac ymwelwyr.

Cyswllt: Beryl Smith
Ffoniwch: 01323 870032

Gwefan: www.cuckmerebus.freeuk.com

The Deeping Men’s Group

Mae Grŵp Dynion Deeping yn codi arian i brynu cadeiriau olwyn ac offer meddygol arall ac yna eu rhoi ar fenthyg yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw o fewn dalgylch Canolfan Iechyd Deepings.

Sefydlwyd y grŵp 50 mlynedd yn ôl fel cyfrwng i bobl yr ardal gael cyswllt cymdeithasol ac i godi arian i elusennau.  Penodwyd swyddogion elusennau a phenderfynwyd prynu cadeiriau olwyn gyda’r arian oedd yn cael ei godi ganddynt.

Mae’r gwirfoddolwyr yn cyfrannu tuag at godi arian, prynu a chynnal a chadw offer, rhedeg y gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos a helpu pobl mewn angen.
 
Cyswllt: Michael Moss
Ffoniwch: 01778 342037

Donna’s Dream House

Mae Tŷ Breuddwydion Donna’n darparu gwyliau am ddim yn Blackpool drwy gydol y flwyddyn ar gyfer plant sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd, ac yn cynnig gwasanaeth cefnogi mewn profedigaeth ar wahân yng Nghanolfan Snowdrop.

Cychwynnwyd Tŷ Breuddwydion Donna gan y cadeirydd, ei wraig a’i deulu yn fuan ar ôl i’w merch farw o ganser yn 20 oed.  Erbyn hyn mae ganddynt dros 400 o bobl yn aros yn Nhŷ Breuddwydion Donna bob blwyddyn ac mae dros 170 o bobl leol wedi ceisio cefnogaeth gan Ganolfan Snowdrop.

Mae’r plant sy’n dod i Dŷ Breuddwydion Donna’n rhy sâl i fynd dramor, ac felly am gyfnod byr mae gan eu teuluoedd y cyfle i fwynhau gwyliau olaf gyda’u plant.  Diolch i ymroddiad a gwaith caled llawer o wirfoddolwyr lleol a phobl sy’n gwneud gwasanaeth cymunedol, trawsnewidiodd yr elusen adeilad adfeiliedig yn hafan ar gyfer plant a’u teuluoedd.  Gyda’r ystafell chwarae wych a’r pedwar rhandy ar thema, mae Tŷ Breuddwydion Donna’n dod ag ymdeimlad o hwyl i fywydau plant.

Ar y dechrau fe wynebodd yr elusen broblemau gyda’r gymuned leol oherwydd bod troseddwyr cymunedol yn cymryd rhan yn y gwaith ac oherwydd y gwaith unigryw anhysbys yr oedd yr elusen wedi mynd ati i’w wneud.  Er mwyn cael dros y broblem, fe sefydlwyd fforwm i bobl y gymuned leol fynegi eu barn a chael profiad o’r ganolfan gan ganiatáu iddynt weld budd gwaith y troseddwyr a mwynhad y teuluoedd.

Mae’r elusen wrthi ar hyn o bryd yn adnewyddu ail dŷ i ddarparu gwyliau am ddim i bobl ifanc yn eu harddegau sydd â salwch terfynol ac i’w teuluoedd.

Meddai Len Curtis, cadeirydd Tŷ Breuddwydion Donna: “Mae ennill Gwobr y Frenhines yn anrhydedd ac yn tystio i’r llu gwirfoddolwyr a gyfrannodd i wireddu ein Tŷ Breuddwydion Donna arbennig i blant.  Gwyliwch y gofod hwn i weld cyhoeddiad “Y Freuddwyd Eithaf”.

Cyswllt: Len Curtis
Ffoniwch: 01253 752 222
Gwefan: www.donnasdreamhouse.org
E-bost: lencurtis@btconnect.com

Down’s Syndrome Association Northern Ireland

Mae Cymdeithas Syndrom Down Gogledd Iwerddon yn darparu cefnogaeth ar gyfer pobl sydd â Syndrom Down, eu teuluoedd a’u gofalwyr.  Mae’r gefnogaeth yn amrywio o drefnu gwyliau a ‘dyddiau hwyl’, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a digwyddiadau addysgiadol eraill yn mynd i’r afael â phob agwedd o’r syndrom.

Mae’r grŵp yn hwyluso dod â phobl at ei gilydd sy’n cael eu heffeithio gan y syndrom a’r cyrff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol lleol.  Mae’r cynllun penwythnos ‘Rhieni Newydd” yn cyflwyno teuluoedd sydd newydd gael babi â Syndrom Down i’r gwasanaethau a’r therapyddion fydd yn rhan o ofal a datblygiad eu babanod newydd.

Mae’r grŵp hefyd yn dosbarthu gwybodaeth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan y syndrom, gan ddarparu cyngor gwerthfawr.  Yn ogystal â chefnogi’r teuluoedd, mae’r gwirfoddolwyr yn rhoi wythnos o’u hamser i fynd â rhai yn eu harddegau ar wyliau i gynorthwyo ar wyliau plant yng Nghanolfan Shore.  Mae’r gwirfoddolwyr yn ymuno ym mhob gweithgaredd ac yn helpu gyda gofal personol lle bo angen, er mwyn sicrhau fod pawb yn mwynhau’r gwyliau.

Cyswllt: Tracey Falls
Ffoniwch: 02890 704606
Gwefan: www.downs-syndrone.org

Folkestone Migrant Support Group

Mae Grŵp Cefnogi Mewnfudwyr Folkestone yn darparu cyfleusterau i liniaru tlodi a thrallod ymysg ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr yn ardal Folkestone.

Cafodd Grŵp Cefnogi Mewnfudwyr Folkestone ei sefydlu ym 1991, mewn ymateb i anghenion yn dilyn rhyfeloedd Bosnia a Kosovo.  Daeth yn elusen gofrestredig yn 2001 pan ddechreuodd y cynnydd yn nifer y ceiswyr lloches herio gwasanaethau lleol.

Amcanion yr elusen yw ymestyn addysg y cyhoedd o ran anghenion ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr, drwy symbylu ysbryd cymunedol a rhwydweithio gydag asiantaethau eraill perthnasol.

Mae’r grŵp yn wynebu amryw o anawsterau a gwrthwynebiad yn y gymuned leol, yn cynnwys llythyrau bygythiol a gwrthdaro treisgar rhwng grwpiau.  Ond maen nhw wedi gweithio’n ddiflino yn y dirgel er mwyn chwalu’r rhagfarnau.  Mae’r grŵp wedi annog ysgolion a sefydliadau meddygol i dderbyn pobl nad ydynt yn siarad Saesneg, wedi galluogi plant o lawer o wahanol wledydd i gael mynediad at addysg o gyfnod cyn-ysgol ymlaen ac wedi cefnogi oedolion sy’n dysgu.  Drwy gefnogi unigolion a grwpiau sy’n darparu addysg ieithoedd a chyfieithu, mae’r grŵp yn ceisio galluogi mewnfudwyr i ymdoddi i’r gymdeithas.  Mae’r holl wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan yn rhoi amser, sgiliau ac eiddo i bobl y mae eraill yn eu hanwybyddu ac yn eu tro mae’r teuluoedd sydd wedi setlo yn awr yn helpu rhedeg grwpiau a gweithgareddau eu hunain er mwyn chwalu’r rhwystrau.

Cyswllt: Rosemary Siebert
Symudol: 077 633 30113

Four Groves Community Association

Mae Cymdeithas Gymunedol Four Groves yn gweithio mewn ardal o dai cyngor gan fwyaf yn ward Risedale, sydd yn y 10% uchaf o ardaloedd difreintiedig yn y wlad.  Yn wreiddiol cafodd ei sefydlu i fynd i’r afael â’r dirywiad yn yr ysbryd cymdeithasol a’r amgylchedd lleol, mae’r gymdeithas yn awr yn gweithio i hyrwyddo ac i alluogi llawer o brosiectau eraill yn y gymuned.

Yn ystod y pum mlynedd y bu’n gweithredu, mae’r grŵp wedi tyfu ac wedi ehangu yn yr ardal ac erbyn hyn mae’n gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, yr heddlu ac asiantaethau eraill, sy’n caniatáu iddo gynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau yn y gymuned. 

Mae’r gymdeithas nid yn unig wedi helpu i gynyddu balchder pobl yn eu cymuned leol, ond mae hefyd wedi hybu ymdeimlad bod modd gwneud rhywbeth i wella eich amgylchedd lleol.

Fe weithiodd y gymdeithas yn galed i sefydlu’i hun yn y gymuned, ac ar y dechrau fe wynebodd sgeptigaeth gan lawer o’r trigolion lleol.  Fodd bynnag, mae bwriadau da a gwaith caled y gwirfoddolwyr wedi helpu i greu teimlad cadarnhaol o gydlyniad a balchder ymysg y gymuned ehangach.

Cyswllt: Pauline Charnley
Ffoniwch: 01229 821210

Friends of Wombwell Cemetery

Mae Cyfeillion Mynwent Wombwell yn gweithio i gadw Mynwent Wombwell, gan helpu i’w wneud yn fan lle ceir heddwch a lle i fyfyrio i’r rhai mewn profedigaeth.

Yn dilyn achos o fygio yn y fynwent, mae’r Cyfeillion hefyd wedi cymryd y cyfrifoldeb dros amddiffyn yr ardal yn erbyn fandaliaeth a throseddu yn y dyfodol.  Mae ‘Gwylio’r Fynwent’ yn rhan annatod o Grŵp Cyswllt Gwarchod y Gymuned Barnsley, sy’n aelod cyswllt o’r Sefydliad Cenedlaethol.  Maen nhw’n gweithio’n agos gyda’r bartneriaeth Troseddu a Lleihau Trosedd lleol yn Barnsley a gyda’r gwasanaeth Profedigaeth.

Mae’r gwirfoddolwyr sy’n rhan o Gyfeillion Mynwent Wombwell, drwy eu gwaith caled a’u hymroddiad i gadw’r fynwent, wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau’r gymuned.  Y canlyniad yw bod mwy o drigolion yn ymweld â’r fynwent yn amlach i ofalu am feddau teuluol.  Ymysg y gwelliannau i ymddangosiad y fynwent mae adfer cerflun a syrthiodd flynyddoedd yn ôl, a diweddaru cofnodion hanesyddol i lunio cronfa ddata gyfrifiadurol o’r lleiniau yn y fynwent.

Cafodd y grŵp hwn effaith gadarnhaol ar bobl ifanc o fewn yr ardal, gan ail-gyflwyno ymdeimlad o ysbryd cymunedol.  Mae Cyfeillion Mynwent Wombwell wedi gwneud y fynwent yn lle mwy diogel a mwy pleserus ar gyfer trigolion.

Meddai Joy Bretton, un o Gyfeillion Mynwent Wombwell: “Os oedden ni wedi’n syfrdanu a’n cyffroi i gael ein henwebu am Wobr y Frenhines, roedden ni dros ben llestri mewn llawenydd a hapusrwydd [wrth ennill].  Os oedd angen sbardun erioed ar wirfoddolwyr i barhau i wirfoddoli, yna’r wobr hon yw’r sbardun hwnnw!”

Cyswllt: Mike Bretton
Ffoniwch: 01226 211595
Symudol: 0781 636 3864


0-F | G-L | M-Z