 |
Mae pob enwebiad yn cael ei werthuso i ddechrau o fewn i’r sir lle mae’r grwp yn gweithredu. Arweinir y gwerthusiad hwn gan yr Arglwydd Raglaw, cynrychiolydd Ei Mawrhydi yn y Sir, fydd yn cael ei gynorthwyo gan Banel Asesu’r Sir yn cynnwys cynrychiolwyr o sectorau amrywiol y gymuned. Efallai bydd yr Arglwydd Raglaw a/neu eu cynrychiolwyr yn dymuno trefnu ymweld â’r grwp sydd wedi’i enwebu. Yn ogystal, asesir y grwpiau a enwebir yn Nibynwledydd y Goron Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw, yn ogystal â’r grwpiau o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru gan Lywodraethwyr Rhaglaw Dibynwledydd y Goron a chan Baneli a sefydlwyd gan y Gweinyddiaethau Datganoledig.
Beirniedir y grwpiau a enwebwyd yn erbyn meini prawf y Wobr gan Banel Asesu Arbennig, sy’n cynnwys arbenigwyr annibynnol ym maes gwirfoddoli ar draws y DU, sy’n ystyried gwerthusiadau’r Sir, Dibynwledydd y Goron, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. Cyflwynir argymhellion y Panel Asesu Arbenigol i Brif Pwyllgor y Wobr fydd yn cynghori’r Gweinidog.
Mae Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cyflwyno’r Gwobrwyon ar gyngor y Gweinidog. Unwaith mae Ei Mawrhydi wedi rhoi ei chymeradwyaeth ffurfiol byddwn yn hysbysu’r grwpiau penodol ar sail hollol gyfrinachol tan y cyhoeddiad cyhoeddus ar 2 Mehefin, pen-blwydd Coroni’r Frenhines. Cyhoeddir rhestr o enillwyr y Wobr yn Gazette Llundain. Bydd Consolidated PR yn cynnig cyngor a chymorth cyfryngol i enillwyr y Wobr.
Caiff pob enwebiad ei feirniadu ar deilyngdod yn unig ac nid oes nifer penodol o Wobrau ar gyfer sector neu ranbarth penodol. Fodd bynnag, mae’r system yn ymdrechu i gyflawni ‘cydbwysedd rhesymol’ o ffactorau fel oedran, sector a demograffeg dros gyfnod o amser.
Wrth asesu enwebiadau, mae’r Paneli Lleol
a Phwyllgor Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines yn ystyried a yw’r
grwpiau a enwebwyd:
- yn cwrdd ag angen penodol;
- yn darparu gweithgareddau o ansawdd uchel iawn sy’n canolbwyntio
ar y gymuned;
- wedi creu llawer iawn o ewyllys da a pharch ymysg y rhai hynny
maent yn eu gwasanaethu a’r gymuned yn gyfan;
- wedi datblygu’n lleol ac yn cael eu rhedeg yn lleol; ac
- wedi profi eu gwerth trwy eu gweithgarwch yn y gymuned, fel
arfer dros gyfnod o dair blynedd neu fwy, er mwyn lles cymdeithasol,
economaidd neu amgylcheddol unigolion neu grwpiau lleol.
|
|