 |
Gellir enwebu grwpiau os ydynt yn cyflawni’r anghenion cymhwyso canlynol:
- Mae grwpiau cymunedol gwirfoddol (dau berson neu fwy) yn gymwys. Gall hyn gynnwys grwpiau sy’n rhan o sefydliadau rhanbarthol neu genedlaethol mwy o faint cyn belled â bod y fenter a’r gweithgaredd gwirfoddol wedi dechrau ac wedi’i datblygu yn lleol gan wirfoddolwyr.
- Gall buddiolwyr y gwasanaeth a ddarperir gan grwpiau cymwys fod wedi’u lleoli yn y DU neu dramor, ond rhaid bod y grwpiau wedi’i lleoli yn y DU.
- Mae grwpiau sy’n cynnig buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol i bobl yn gymwys. Mae buddion uniongyrchol yn cynnwys, er enghraifft, grwpiau sy’n gweithio er mwyn gwarchod treftadaeth, yr amgylchedd ac yn y blaen.
- Rhaid bod grwpiau wedi bod yn gweithredu i safon uchel am leiafswm o dair blynedd.
- Mae grwpiau’n gymwys cyn belled â’u bod nhw’n cynnwys mwyafrif syml o wirfoddolwyr.
- Rhaid bod gan y mwyafrif o wirfoddolwyr hawl preswylio yn y DU.
Noder: Nid yw grwpiau sy’n ymwneud yn unig â gweithgareddau codi arian i achosion da yn gymwys am y Wobr e.e. grwpiau sy’n casglu arian ar y stryd, trwy ffeiriau sborion neu siopau elusen sydd â’u prif bwrpas yn un o godi arian.
|