arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English version return home
Yngl_n â’r Wobr
small arrow
  small arrow Pwy syên gymwys
  small arrow Dewis enillwyr
  small arrow Cyhoeddi enillwyr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Y Swyddfa GartrefAdeiladu cymdeithas ddiogel, teg a goddefgar.
Cefndir y Wobr
Beth Fyddwch yn ei Dderbyn
Gwobr o Fri
Bydd y wobr a’r dystysgrif i’w gweld yma ar Fehefin 2il 2003
Tystysgrif
Bydd y wobr a’r dystysgrif i’w gweld yma ar Fehefin 2il 2003

Sefydlwyd Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer Gwaith Gwirfoddol gan Grwpiau yn y Gymuded i ddathlu Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi yn 2002. Pwrpas y wobr yw cydnabod grwpiau o unigolion sy’n rhoi o’u hamser er lles eraill. Dyma’r anrhydedd uchaf a ellir ei gyflwyno i grwpiau o’r math hwn ac mae ganddo statws tebyg i MBE. Nid yw Gwobr y Frenhines yn cydnabod grwpiau gwirfoddol yn unig, mae hi hefyd yn arddangos y parch uchel sydd tuag at wirfoddoli.

Yn debyg i Wobrau eraill y Frenhines, sy’n rhan o adrannau’r llywodraeth sy’n berthnasol i’w materion pwnc, mae’r Wobr hon yn cael ei chyfarwyddo a’i goruchwylio gan Swyddfa’r Drydedd Sector sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet. Mae gweinyddiaeth dydd i ddydd a gwaith cyfathrebu’r Wobr yn cael ei weithredu gan asiantaeth a apwyntiwyd yn allanol, Consolidated PR.

Yn 2006, ymgymerodd Swyddfa’r Cabinet ag adolygiad annibynnol o’r Wobr yn unol â’r cytundeb gafodd ei lunio pan sefydlwyd y Wobr yn wreiddiol, gan arwain at nifer o newidiadau i’r broses enwebu, asesu a dethol a argymhellwyd a’u cymeradwyo gan y Frenhines ym mis Gorffennaf 2007. Argymhellion yr Adolygiad sy’n ffurfio’r rheolau syml sy’n gweithredu’r Wobr heddiw.

Manylion Cysylltu

Gweithredir holl waith Gweinyddol, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu’r Wobr gan Asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Consolidated. Eu cyfeiriad yw:

Consolidated
22 Endell Street
Llundain, WC2H 9AD

Os oes gennych unrhyw ymholiadau gweinyddol, gan gynnwys eglurhad pellach o’r canllawiau, cysylltwch â:

Tamara Cummings-John
Gweinyddwraig y Wobr
Ffôn: 020 7781 2330
Ffacs: 020 7781 2301
E-bost: TamaraCJ@consol.co.uk